-
Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru’n chwilio
-
am grŵp amrywiol o bobl i ymuno â ni, sy’n gallu helpu
-
i ysbrydoli pobl Cymru
-
a’r byd gyda dawnsio gwych.
-
Rydym eisiau canfod dulliau newydd o weithio i.
-
i gyrraedd pobl newydd a gwahanol
-
- i gyflawni ein cenhadaeth i fynegi syniadau
-
y tu hwnt i eiriau,
-
gan archwilio’r hyn y mae’n ei olygu i fyw yng
-
Nghymru a’r byd yn yr oes sydd ohoni.
-
Rydym yn chwilio am hyd at 4
-
o ymddiriedolwyr newydd,
-
gan ganolbwyntio fwyaf ar y rhai hynny
-
sydd â sgiliau a phrofiad yn y celfyddydau perfformio,
-
materion cyfreithiol a llywodraethiant, cyllid,
-
dysg a chyfranogiad, a chodi arian.
-
Bydd pob ymddiriedolwr yn gwasanaethu
-
am hyd at 2 dymor o 3 blynedd yr un.
-
Mae ehangu ymgysylltiad, hyrwyddo arloesedd,
-
dadlau o blaid dawns a meithrin ein
-
gwydnwch wrth wraidd popeth
-
a wneir gan CDCCymru.
-
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pawb
-
yng Nghymru’n cael cyfleoedd
-
cyfartal i gael mynediad i fyd dawns.
-
Rydym yn mynd ati’n arbennig i annog ceisiadau gan
-
bobl nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n ddigonol yn y
-
sector dawns, a gan y rheiny sy’n profi gwahaniaethu.
-
Rydym yn ymroddedig i ddiwallu anghenion o ran mynediad;
-
rhowch wybod i ni beth sydd ei angen arnoch.
-
Mae’r swyddi’n ddi-dâl,
-
ond gellir ad-dalu costau.
-
Am ragor o wybodaeth a phecyn ymgeisio sydd
-
ar gael mewn sawl fformat, ymwelwch â’n gwefan os gwelwch yn dda,
-
ndcwales.co.uk/ymddiriedolwr
-
Mae’r pecyn yn egluro sut i gysylltu â’r Cadeirydd am sgyrsiau rhagarweiniol.
-
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
-
yw hanner dydd, dydd Gwener 27 Mehefin 2025.