Mae'r llywodraeth yn monitro galwadau ffôn preifat,
galwadau ffôn preifat eich plant chi a'm plant i a thracio pwy yw eu cysylltiadau.
Mehefin yma, dysgom nad yw'n bywydau preifat bellach yn breifat.
Mae llywodraeth yr UDA yn tracio yn gyfrinachol: e-byst,
pryniannau, negeseuon testun, lleoliadau a galwadau ffôn pobl ar draws y byd.
Ed Rooney, Ed? Dyma George Peterson...
Gydag enwau rhaglenni fel PRISM a XKEYSCORE,
mae'r rhwydwaith hwn o raglenni monitro
yn ddim ond un rhan o system wyliadwraeth fwyaf hanes.
Mae'r system wyliadwraeth penagored yma yn anghyfreithlon ac yn gweithredu mewn cyfrinachedd llwyr.
O dan y sytem, mae'r llywodraeth yn gallu gwybod ble rydych wedi bod,
ble rydych chi nawr, a ble rydych chi'n mynd.
Daeth y rhaglen i olau dydd dim ond ar ôl i gyn-weithiwr gyda'r NSA, Edward Snowden,
ddatgelu dogfennau yn manylu ar y casglu data eang hwn.
Mae gen i wybodaeth 'sdi, mae na gac newydd 'di dod i'r golwg.
Mae'r Arlywydd, yr NSA a'u cyfreithwyr wedi ceisio lleddfu dicter y cyhoedd
drwy wyro'r gwirionedd a chamarwain y cyhoedd ynghylch y broses.
Dydi llysoedd yr UDA erioed wedi caniatâu i'r llywodraeth weithredu rhaglen ysbïo ar y fath raddfa.
Felly sut digwyddodd hyn?
Wel, beth am gymryd cam yn ôl, am funud.
Roedd sylfaennwyr America yn casàu gwyliadwraeth gormesol Prydain ac enghreifftiau o archwilio ac atafael afresymol.
Mater o annibynniaeth ydi hwn.
Gan eu bod yn deallt fod preifatrwydd yn anghenrheidiol ar gyfer bron i bob un hawl sylfaenol yn ein cyfansoddiad,
fe wnaethant lunio'r pedweydd gwelliant.
Mae'r pedwerydd gwlliant yn bodoli i stopio'r llywodraeth rhag tracio a chwilio drwy eich manylion personol,
oni bai fod ganddynt reswm da i gredu fod trosedd yn cymryd lle.
Mae yno i gyd mewn du a gwyn, yn glir fel crisial.
Drwy ddefnyddio'r NSA, mae llywodraeth UDA yn torri cyfraith uchaf y wlad, y Cyfansoddiad.
Mae systemau gwyliadwraeth gan y Llywodraeth wedi eu sefydlu ers degawdau, ond fe waethygodd pethau'n ddifrifol yn 2001
pan basiodd Cyngres UDA y 'Patriot Act',
gan roi mwy o awdurdod i lysoedd FISA cyfrinachol i gymeradwyo mwy o geisiadau i ymestyn gwyliadwraeth ar raddfa eang.
Yn lle cael warant ar gyfer unigolyn oedd yn cael ei amau o drosedd,
roedd y llywodraeth nawr yn gallu chwilio rhestr hir o bobl.
Hyd yn oed y rhai nad oedd unrhyw amheuaeth nad oeddent yn gweithredu'n anghyfreithlon.
Does dim rhaid i lysoedd FISA ryddhau pa geisiadau i'r llys sydd yn cael eu caniatâu
a does dim angen tystiolaeth atodol.
O'r, 1,789 cais i gael eu hawdurdodi, cafodd un ei wrthod gan y llywodraeth.
Cafodd y gweddill i gyd eu caniatâu.
Stamp rwber ydyw.
Mae hyn oll yn cael ei guddio gan gyfrinachedd, heb unrhyw system sy'n gwirio a chydbwyso.
Os ydi'r NSA yn casglu gwybodaeth amdanoch wedi'i seilio ar yr hyn rydych yn ei ddarllen, pa wefannau yr ydych yn eu hymweld â hwy
nid ydych yn debygol o wybod amdano fyth na'u stopio, pwy bynnag ydych chi.
Mae rhaglenni fel PRISM, yn anwybyddu pwrpas warantiau yn llwyr
tra'n dal i ddyfynnu eu bod yn gweithio o fewn y gyfraith.
Mae llywodraeth UDA wedi troi y rhyngrwyd yr ydym yn ei garu i rywbeth na wnaethom fyth ei fwriadu iddo fod...
...arf i gadw gwyliadwraeth ar bawb.
Dyma'r broblem fwyaf sylfaenol.
Drwy gyfrwng y llysoedd cyfrinachol hyn a dehongliadau cyfrinachol o'r cyfreithiau,
gall gweithwyr i lywodraeth UDA dracio defnyddwyr y rhyngrwyd gan ddefnyddio pethau fel allweddeiriau yn anghyfreithlon.
Mae dadansoddwyr sydd yn defnyddio system ar gyfer portal i'r rhyngrwyd yn Fort Mead,
yn teipio termau chwilio sydd wedi eu dylunio i gynhyrchu o leiaf 51% o hyder o allu dehongli
faint o dramorwr yw rhywun.
Mae data wedi ei gasglu ers blynyddoedd ar y gwefannau mwyaf poblogaidd,
gmail, facebook, yahoo, a llawer mwy.
Mae miloedd o eiriau sydd yn cael eu tracio gan y llwyodraeth.
Geiriau megis "marijuana"
Mae bron i bob un ebost a anfonnwch
yn gallu achosi i'ch cyfrif gael ei fonitro.
Mae'r tracio hwn yn gallu peri i rywun ddyfalu beth ydych yn ei ddweud.
Dyna pam mae ysbïo ar raddfa eang yn anghyfansoddiadol.
Mae'n anochel y bydd pobl yn cymryd mantais ar systemau ac mae colledion data eisoes yn digwydd.
Mae ysbïo ar ddefnyddiwr o'r rhyngrwyd yn rhoi pŵer i'r llywodraeth dros ein bywydau.
Beth sy'n digwydd i ryddid barn, sefydliadau rhydd, neu wasg rydd
pan mae pawb yn cael eu monitro drwy'r amser, hyd yn oed yn ystod ein momentau mwyaf preifat.
Mae arbennigwyr ar wyliadwraeth, preifatrwydd a chudd-wybodaeth yn cytuno ar un peth.
Mae'r NSA, yr Arlywyddion Bush ac Obama a'u llysoedd cyfrinachol yn
dehongli nifer o gyfreithiau mewn modd y byddai mwyafrif yr Americanwyr yn rhyfeddu ato.
Mae hyn yn galluogi y math o wyliadwraeth a chasglu data
nad oedd y Cyfansoddiad i fod i'w ganiatâu.
Mae'r rhaglenni hyn yn torri'r gyfraith.
Maent yn torri'r pedwerydd gwiriad ac yn dileu ein preifatrwydd.
Ysgrifennwyd Cyfansoddiad UDA er mwyn rhwystro rhaglenni gwyliadwraeth llywodraethol fel PRISM.
Rhaid i ninnau fynnu fod y delfrydau hyn yn cael eu cynnal.
Helpwch ni i stopio'r NSA, adfer y Cyfansoddiad a chadw'r byd yn rhydd.