Mae'r offeryn dysgu peirianyddol micro:bit yn gadael i chi hyfforddi, profi a gwella model dysgu peirianyddol sy'n gallu adnabod gwahanol gweithredoedd, neu symudiadau. Dyma daith gyflym o sut mae'n gweithio. Bydd angen dau micro:bit arnoch. Byddwch yn dal neu'n gwisgo'r micro:bit cyntaf. Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrîn ar gyfer gosod micro:bit 1. Yna dad-blygiwch ef ac atodwch becyn batri. Os oes gennych chi strap arddwrn, gallwch chi gysylltu micro:bit 1 i'ch braich. Mae'r ail micro:bit yn aros yn gysylltiedig â'ch cyfrifiadur gyda chebl USB. Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrîn ar gyfer gosod micro:bit 2. Ar waelod y sgrîn, byddwch yn gweld data symudiad byw o synhwyrydd mesurydd cyflymu micro:bit 1. Mae pob llinell liw yn cynrychioli cyfeiriad, neu ddimensiwn gwahanol, rydych chi'n symud y micro:bit i mewn. Cam 1, ychwanegwch ychydig o ddata! Penderfynwch pa weithredoedd yr hoffech i'r offeryn dysgu peirianyddol micro:bit eu hadnabod. Mae clapio a chwifio yn rhai da i ddechrau. Enwch eich gweithred gyntaf, yna dechreuwch symud! Cliciwch y botwm coch i gasglu eich sampl gyntaf o ddata. Casglwch o leiaf dri sampl o'ch gweithred gyntaf. A gwnewch yr un peth ar gyfer o leiaf un weithred arall. Cam 2, hyfforddwch y model. Mae hyn yn golygu bod yr offeryn dysgu peirianyddol yn gwneud set o reolau i amcangyfrif pa gamau rydych chi'n eu gwneud wrth symud micro:bit 1. Cam 3, profwch y model. Ceisiwch wneud pob un o'ch gweithredoedd. Mae'r sgrîn yn dangos pa weithred mae'r model yn amcangyfrif eich bod chi'n ei wneud. Y rhif canrannol yw pa mor hyderus, neu sicr, yw'r model. Nawr rhowch gynnig arni eich hun a gweld pa symudiadau gwahanol y gallwch chi hyfforddi'r offeryn dysgu peirianyddol micro:bit i'w hadnabod.