0:00:00.890,0:00:06.138 Mae'r offeryn dysgu peirianyddol micro:bit yn gadael i chi hyfforddi, profi a gwella 0:00:06.138,0:00:10.379 model dysgu peirianyddol sy'n gallu adnabod gwahanol gweithredoedd, neu symudiadau. 0:00:10.379,0:00:13.330 Dyma daith gyflym o sut mae'n gweithio. 0:00:13.330,0:00:16.210 Bydd angen dau micro:bit arnoch. 0:00:16.210,0:00:20.090 Byddwch yn dal neu'n gwisgo'r micro:bit cyntaf. 0:00:20.090,0:00:25.641 Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrîn ar gyfer gosod micro:bit 1. 0:00:27.250,0:00:30.369 Yna dad-blygiwch ef ac atodwch becyn batri. 0:00:30.369,0:00:35.580 Os oes gennych chi strap arddwrn, gallwch chi gysylltu micro:bit 1 i'ch braich. 0:00:37.460,0:00:41.850 Mae'r ail micro:bit yn aros yn gysylltiedig â'ch cyfrifiadur gyda chebl USB. 0:00:41.850,0:00:46.710 Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrîn ar gyfer gosod micro:bit 2. 0:00:47.840,0:00:54.671 Ar waelod y sgrîn, byddwch yn gweld data symudiad byw o synhwyrydd mesurydd cyflymu micro:bit 1. 0:00:55.300,0:01:00.811 Mae pob llinell liw yn cynrychioli cyfeiriad, neu ddimensiwn gwahanol, rydych chi'n symud y micro:bit i mewn. 0:01:02.449,0:01:05.519 Cam 1, ychwanegwch ychydig o ddata! 0:01:05.519,0:01:10.159 Penderfynwch pa weithredoedd yr hoffech i'r offeryn dysgu peirianyddol micro:bit eu hadnabod. 0:01:10.159,0:01:14.510 Mae clapio a chwifio yn rhai da i ddechrau. 0:01:14.510,0:01:18.750 Enwch eich gweithred gyntaf, yna dechreuwch symud! 0:01:18.750,0:01:24.489 Cliciwch y botwm coch i gasglu eich sampl gyntaf o ddata. 0:01:26.009,0:01:31.652 Casglwch o leiaf dri sampl o'ch gweithred gyntaf. 0:01:34.372,0:01:40.068 A gwnewch yr un peth ar gyfer o leiaf un weithred arall. 0:01:43.649,0:01:46.190 Cam 2, hyfforddwch y model. 0:01:46.190,0:01:51.560 Mae hyn yn golygu bod yr offeryn dysgu peirianyddol yn gwneud set o reolau i amcangyfrif pa gamau 0:01:51.560,0:01:55.879 rydych chi'n eu gwneud wrth symud micro:bit 1. 0:01:56.619,0:01:59.840 Cam 3, profwch y model. 0:01:59.840,0:02:02.290 Ceisiwch wneud pob un o'ch gweithredoedd. 0:02:02.290,0:02:07.640 Mae'r sgrîn yn dangos pa weithred mae'r model yn amcangyfrif eich bod chi'n ei wneud. 0:02:07.640,0:02:14.310 Y rhif canrannol yw pa mor hyderus, neu sicr, yw'r model. 0:02:14.310,0:02:18.250 Nawr rhowch gynnig arni eich hun a gweld pa symudiadau gwahanol y gallwch chi 0:02:18.250,0:02:23.222 hyfforddi'r offeryn dysgu peirianyddol micro:bit i'w hadnabod.