[cymeradwyo] Diolch. [cymeradwyo] Diolch. [cymeradwyo] Diolch yn fawr i chi. [cymeradwyo] Diolch. [cymeradwyo] I Graça Machel a theulu Mandela; I'r Arlywydd Zuma ac aelodau ei lywodraeth; i benaethiaid taleithiau a llywodraethau -- yn y gorffennol a'r presennol -- gwesteion nodedig. Mae hi'n fraint unigol i mi fod gyda chi heddiw i ddathlu bywyd fel neb arall I bobl De Affrica [cymeradwyo] Pobl o bob thras a phob cherddediad mewn bywyd mae'r byd yn diolch i chi am rannu Nelson Mandela gyda ni Ei frwydr oedd eich brwydr ei lwyddiant oedd eich llwyddiant, fe wnaeth eich urddas ac eich gobaith gael ei fynegi drwy ei fywyd a thrwy eich ryddid Eich democratiaeth yw ei rodd annwyli i chi Mae hi'n anodd canu clodydd i unrhyw ddyn i gyflwyno mewn geiriau nid dim ond y ffeithiau a'r dyddiadau sy'n ffurfio bywyd ond y gwir wrth hanfod person y llawenydd preifat a'r galaru y momentau distaw a nodweddion unigryw sydd yn goleuo enaid rhywun Anoddach o'r hanner yw gwneud hyn i gawr yn ein hanes a symudodd gwlad tuag at gyfiawnder a thrwy'r broses symud biliynau o amgylch y byd Wedi'i eni yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf wedi ennyn diddordeb drwy orchymynnion o bŵer bachgen a'i fagwyd yn bugeilio gwartheg a'i ddysgu gan yr hynaf o blith ei lwyth y Mambu Roedd Madiba i dyfu i fod yn waredwr mawr olaf yr 20fed Ganrif. Fel Gandhi, roedd i arwain mudiad o wrthwynebiad symudiad a oedd ar y dechrau heb prin unrhyw obaith o lwyddo Fel Dr. King, roedd i roi llais pwerus i hawliadau'r gorthrwm rai a'r anghenrhaid moesol i gael tegwch hiliol Roedd i ddioddef carchariad caled a ddechreuodd yng nghyfnod Kennedy a Khrushchev ac a ymestynnodd i ddyddiau olaf y Rhyfel Oer Wrth gerdded o'r carchar heb fyddin arfog byddai -- fel Abraham Lincoln -- yn dal y wlad gyda'i gilydd pan oedd yn bygwth torri'n ddarnau ac fel sylfaenwyr America byddai'n sefydlu trefn gyfansoddiadol i sicrhau rhyddid i genedlaethau i ddod Ymrwymiad i ddemocratiaeth a rheolaeth y gyfraith a gafodd ei gadarnhau nid yn unig gan ei etholiad ond drwy ei barodrwydd i adael y swyddfa ar ôl dim ond un tymor O ystyried llwybr ei fywyd amrediad ei lwyddiannau yr addoliad a oedd mor haeddiannol ohono mae'n demtasiwn -- dwi'n credu -- i gofio Nelson Mandela fel eicon yn gwenu ac yn ddigynnwrf wedi'i ddatgysylltu o faterion coegwych y bobl lai ond gwthwynebodd Madiba ei hun delwedd mor ddi-fywyd [cymeradwyo] Yn hytrach, Mynnodd Madiba rannu gyda ni ei amheuon a'i ofnau ei gamgymeriadau ynghyd â'i lwyddiannau "Dydw i ddim yn sant", dywedodd "os nac ydych yn ystyried sant fel pechadur sy'n dal i drio." Oherwydd ei fod yn gallu cydnabod ei amherffeithrwydd oherwydd ei fod yn gallu bod â chymaint o hiwmor hyd yn oed drygau, er gwaethaf y beichiau trwm a'i cariodd yr ydym yn ei garu cymaint. Nid oedd yn benddelw wedi'i wneud o farmor, roedd yn ddyn o gig a gwaed yn fab ac yn ŵr yn dad ac yn ffrind a dyna pam ein bod wedi dysgu cymaint oddi wrtho a dyna pam y gallwn ddal i ddysgu oddi wrtho Oherwydd nid oedd unrhywbeth a gyflawnodd yn anochel yn llwybr ei fywyd gwelwn ddyn a enillodd ei le yn y llyfrau hanes drwy ymaflyd a chraffter a dyfalbarhad a ffydd mae'n dweud wrthym beth sydd yn bosib nid yn unig yn nhudalennau ein llyfrau hanes ond yn ein bywydau ni hefyd Dangosodd Mandela i ni nerth gweithredu o gymryd risgiau ar ran ein syniadau Efallai fod Mandela yn oawn ei fod wedi "etifeddu gwrthryfelgarwch balch synnwyr ystyfnig o degwch"; gan ei dad ac rydym yn gwybod iddo rannu gyda miliynau o Dde-Affricanwyr du a thywyll eu croen