1 00:00:00,681 --> 00:00:02,658 Fy enw i ydy Hywel Gwynfryn 2 00:00:02,658 --> 00:00:05,868 a dwi'n gweithio fel darlledwr i'r BBC. 3 00:00:05,868 --> 00:00:09,703 BBC Cymru, ag yma yn y brif ddinas yng Nghaerdydd 4 00:00:09,703 --> 00:00:11,916 ydw i'n byw ac yn gweithio. 5 00:00:11,916 --> 00:00:15,720 Ond mae'r daith yn cychwyn nôl yn 1942 6 00:00:15,720 --> 00:00:19,899 Dyna pryd ces i fy ngheni yn Llangefni, Sir Fôn. 7 00:00:19,899 --> 00:00:24,925 Ynys fechan ydy Sir Fôn oddi ar arfordir Gogledd Cymru. 8 00:00:24,925 --> 00:00:29,135 Wedyn mi es i i'r ysgol gynradd yno pan oedd i'n tua chwech oed 9 00:00:29,135 --> 00:00:31,342 ac mi rhaid i fi ddysgu'r Saesneg 10 00:00:31,342 --> 00:00:34,534 oherwydd Cymraeg ydy'r iaith cyntaf, 11 00:00:34,534 --> 00:00:38,124 Cymraeg ydy iaith y teulu a iaith yr aelwyd 12 00:00:38,124 --> 00:00:41,114 wedi bod ers blynyddoedd. 13 00:00:41,114 --> 00:00:44,501 Ac yn wir, pan oeddwn i'n mynd i'r ysgol yn Llangefni 14 00:00:44,509 --> 00:00:50,859 mi oedd 95% o bobl yr ynys yn siarad Cymraeg 15 00:00:50,859 --> 00:00:54,987 ond mae'r ffigwr hwnnw wedi gostwng dipyn erbyn hyn. 16 00:00:54,987 --> 00:00:58,679 'Ta waeth, o'r ysgol gynradd mi es i wedyn i'r ysgol uwchradd 17 00:00:58,679 --> 00:01:01,814 a mwynhau fy hyn yn fawr iawn yn yr fan honno, 18 00:01:01,814 --> 00:01:05,161 oherwydd nes i ddechrau ymddiddori mewn actio 19 00:01:05,161 --> 00:01:09,418 ac mi ges i gyfle hefyd i fynd i'r stiwdios ym Mangor 20 00:01:09,418 --> 00:01:11,097 i actio ar y radio. 21 00:01:11,102 --> 00:01:13,942 Roedd Mam ei hun yn actores 22 00:01:13,942 --> 00:01:17,211 ac yn ei llaw hi o'n i'n mynd draw i'r stiwdio 23 00:01:17,211 --> 00:01:20,797 yn gwylio'r actorion eraill wrthi, yn eistedd yn dawel yn y gornel. 24 00:01:20,797 --> 00:01:24,260 Ac wedyn un diwrnod, fe ges i gyfle i actio 25 00:01:24,260 --> 00:01:26,318 a dwi'n cofio diwrnod hwnnw yn dda iawn 26 00:01:26,318 --> 00:01:29,042 fe ddaeth y cynghyrchydd at fy Mam 27 00:01:29,042 --> 00:01:34,320 a gofyn oedd hi yn adnabod rhywun buasai'n hoffi actio ar y radio 28 00:01:34,320 --> 00:01:38,640 rhan bachgen yn yr opera sebon "Teulu'r Siop" 29 00:01:38,640 --> 00:01:41,828 yr opera sebon Gymraeg gyntaf ar y radio, fel mae'n digwydd 30 00:01:41,828 --> 00:01:44,805 ac fe ddudodd Mam, "Wel mae Hywel", sef fi 31 00:01:44,810 --> 00:01:46,877 "Mae Hywel yn actio" 32 00:01:46,877 --> 00:01:49,896 "Efallai buasai fo yn eu gwneud." 33 00:01:49,896 --> 00:01:53,169 A dyma Wilbert Lloyd Roberts yn rhoi'r sgript i mi 34 00:01:53,169 --> 00:01:55,727 a nes i ddarllen y sgript yn syth bin 35 00:01:55,728 --> 00:01:59,218 ac mi ddudodd o "Wel, mae hwn yn actor." 36 00:01:59,218 --> 00:02:01,291 Dim yn gwybod sut oedd o'n gwybod hynny 37 00:02:01,291 --> 00:02:03,915 ond mi oedd honno'n proffwydoliaeth gywir iawn 38 00:02:03,915 --> 00:02:07,404 oherwydd beth digwyddodd, i neidio ymlaen ychydig bach 39 00:02:07,404 --> 00:02:11,738 me ddes i yma i Gaerdydd ym 1960 40 00:02:11,738 --> 00:02:15,447 i fynd i'r coleg cerdd a drama. 41 00:02:15,452 --> 00:02:17,882 Did i ddysgu sut i actio, fel mae'n digwydd 42 00:02:17,882 --> 00:02:21,823 ond i ddysgu sut i fod yn athro drama. 43 00:02:21,823 --> 00:02:26,161 A gyda llaw, mi roedd y coleg yn y castell yma yng Nghaerdydd 44 00:02:26,173 --> 00:02:28,573 tu mewn i furiau'r castell 45 00:02:28,573 --> 00:02:31,758 ac mi oedd o'n ddwy flynedd hapus iawn. 46 00:02:31,763 --> 00:02:34,049 Ar ddiwedd y cyfnod hwnnw 47 00:02:34,049 --> 00:02:36,258 fe ges i wedyn dystiolaeth 48 00:02:36,258 --> 00:02:40,736 fod i'n digon dda i fod yn athro drama, 49 00:02:40,736 --> 00:02:43,487 ac yn wir, roedd gen i swydd i fynd iddi. 50 00:02:43,487 --> 00:02:46,169 Tystysgrif, swydd i fynd iddi hi 51 00:02:46,172 --> 00:02:48,342 lawr y ffordd ym Mynydd Cynffig. 52 00:02:48,342 --> 00:02:52,593 Ond be digwyddodd oedd fy mod i wedi mynd i weithio rhan amser 53 00:02:52,593 --> 00:02:57,567 gyda'r nôs yn ystod yr hâf, i ennill ychydig o arian 54 00:02:57,567 --> 00:03:00,803 cyn i mi fynd i ddysgu, felly. 55 00:03:00,803 --> 00:03:04,021 A phwy ddaeth i mewn i'r lle ble roedd i'n gweithio 56 00:03:04,021 --> 00:03:06,542 yn y Borough Arms yma yn Nghaerdydd 57 00:03:06,542 --> 00:03:08,055 ond criw o'r BBC. 58 00:03:08,055 --> 00:03:09,987 Ac i dorri stori hir yn fyr 59 00:03:09,987 --> 00:03:14,324 bydd nhw'n ofyn i fi i wedyn i fynd draw i'r stiwdio ymhen rhwy ddau fis 60 00:03:14,324 --> 00:03:16,520 er mwyn i mi, fel roeddwn i'n meddwl 61 00:03:16,521 --> 00:03:19,114 er mwyn i mi cael cyfle i siarad am fy nghwaith 62 00:03:19,118 --> 00:03:21,598 ond ar ôl cyrraedd yr hyn roedden nhw eisiau i mi wneud 63 00:03:21,598 --> 00:03:26,272 oedd bod yn rhan o dîm y rhaglen "Heddiw", 64 00:03:26,272 --> 00:03:28,890 rhaglen cylchgrawn ddyddiol. 65 00:03:28,890 --> 00:03:31,876 Ac roeddwn i fod i mynd allan ar ffilm 66 00:03:31,901 --> 00:03:36,930 yn dod â rhan o Gymru tu allan i'r stiwdio yng nghefngwlad Cymru 67 00:03:36,934 --> 00:03:40,464 i mewn i'r stiwdio ac i mewn i'r rhaglen. 68 00:03:40,464 --> 00:03:45,077 Ac fe ges i gynnig pryd hynny dri mis o waith 69 00:03:45,077 --> 00:03:48,521 a bellach, dwi wedi bod efo'r BBC ers hanner can mlynedd. 70 00:03:48,521 --> 00:03:51,215 Yn wir, rydw i'n dathlu hynny eleni, 71 00:03:51,215 --> 00:03:53,451 hanner can mlynedd o ddarlledu 72 00:03:53,451 --> 00:03:55,401 a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg hefyd 73 00:03:55,401 --> 00:03:57,569 dwi 'di wedi bod yn ffodus iawn 74 00:03:57,569 --> 00:03:58,786 ym mod i, mewn gwirionedd 75 00:03:58,786 --> 00:04:01,845 wedi cael fy nhalu am yr holl flynyddoedd yna 76 00:04:02,936 --> 00:04:04,796 dwi'n siarad fy iaith fy hun 77 00:04:04,796 --> 00:04:08,071 neu fel byddaf i'n dweud, wrando ar bobl eraill yn siarad y Gymraeg 78 00:04:08,071 --> 00:04:09,478 felly beth dwi wedi gwneud? 79 00:04:09,478 --> 00:04:12,654 Yn ystod y cyfnod yma, dwi 'di bod o gwmpas y byd 80 00:04:12,664 --> 00:04:15,593 dwi 'di bod yn Fflorida yn yr America. 81 00:04:15,593 --> 00:04:18,251 Dwi 'di bod ym Mhatagonia hefyd, yn Nhe America. 82 00:04:18,775 --> 00:04:21,828 Dwi 'di bod mor bell a Sarawak a Borneo. 83 00:04:21,828 --> 00:04:23,827 Dwi wedi bod yn crwydro gwledydd Ewrop 84 00:04:23,827 --> 00:04:27,710 yn ffilmio rhaglenni ar gyfer plant 85 00:04:27,710 --> 00:04:29,123 nôl yn y 70au. 86 00:04:29,123 --> 00:04:33,324 Wedyn yn yr 80au fe wnes i gyfres o'r enw "Ar dy Feic" 87 00:04:33,324 --> 00:04:36,060 a mi es i mor bell a Beijing yn Tseina, 88 00:04:36,060 --> 00:04:39,052 dwi'n cofio'n dda ac roedd hwnnw yn brofiad a hanner. 89 00:04:39,052 --> 00:04:42,201 Felly dwi'n cyfru fy hun ddyn ffodus iawn 90 00:04:42,201 --> 00:04:46,651 ym mod i nid yn unig wedi cael gwneud beth dwi'n gallu neud yn naturiol, 91 00:04:46,651 --> 00:04:50,434 gallech chi ddweud, sef siarad pymtheg i'r dwsin 92 00:04:50,437 --> 00:04:53,157 ond fy mod wedi cael gwiath mor ddiddorol 93 00:04:53,157 --> 00:04:55,179 a mor amrywiol hefyd 94 00:04:55,179 --> 00:04:58,150 ac yn ddiweddar dwi 'di mynd lawr rhyw ffordd bach arall 95 00:04:58,150 --> 00:05:00,384 a dwi 'di bod yn sgwennu llyfrau. 96 00:05:00,384 --> 00:05:02,882 A dwi' di sgwennu un llyfr am Huw Griffith 97 00:05:02,882 --> 00:05:04,635 oedd yn actor enwog iawn 98 00:05:04,635 --> 00:05:09,152 mae'n siwr fod chi'n gwybod am y ffilm 'Ben Hur' efo Charlton Heston. 99 00:05:09,152 --> 00:05:14,610 Wel, Huw Griffith ennillodd yr Oscar am bod yn actor cymorthwyol yn y ffilm yna. 100 00:05:14,610 --> 00:05:17,636 Wel, mi allwn i mynd ymlaen wrth gwrs am oriau 101 00:05:17,636 --> 00:05:19,717 yn siarad am yr hyn 'dwi wedi wneud 102 00:05:19,717 --> 00:05:22,920 ond dyna chi bwts bach o fy hanes i. 103 00:05:22,920 --> 00:05:25,388 Mae hi wedi bod yn braf iawn yn cael sgwrsio efo chi 104 00:05:25,388 --> 00:05:27,196 a hynny yn fy iaith fy hun. 105 00:05:27,196 --> 00:05:29,945 Mae yna hanner miliwn ohonyn ni yng Nghymru rwan 106 00:05:29,945 --> 00:05:32,076 yn siarad yr iaith 107 00:05:32,092 --> 00:05:33,668 ac er i bod hi yn edwino 108 00:05:33,668 --> 00:05:36,909 mae yna ymgyrchoedd cryf iawn rwan 109 00:05:36,909 --> 00:05:38,329 i'w chadw hi'n fyw. 110 00:05:38,329 --> 00:05:41,208 Felly diolch yn fawr i chi am wrando, 111 00:05:41,208 --> 00:05:42,725 thank you for listening. 112 00:05:42,725 --> 00:05:43,515 Hwyl fawr!