0:00:00.681,0:00:02.658 Fy enw i ydy Hywel Gwynfryn 0:00:02.658,0:00:05.868 a dwi'n gweithio fel darlledwr i'r BBC. 0:00:05.868,0:00:09.703 BBC Cymru, ag yma yn y brif [br]ddinas yng Nghaerdydd 0:00:09.703,0:00:11.916 ydw i'n byw ac yn gweithio. 0:00:11.916,0:00:15.720 Ond mae'r daith yn cychwyn nôl yn 1942 0:00:15.720,0:00:19.899 Dyna pryd ces i fy ngheni yn[br]Llangefni, Sir Fôn. 0:00:19.899,0:00:24.925 Ynys fechan ydy Sir Fôn oddi ar[br]arfordir Gogledd Cymru. 0:00:24.925,0:00:29.135 Wedyn mi es i i'r ysgol gynradd yno[br]pan oedd i'n tua chwech oed 0:00:29.135,0:00:31.342 ac mi rhaid i fi ddysgu'r Saesneg 0:00:31.342,0:00:34.534 oherwydd Cymraeg ydy'r iaith cyntaf, 0:00:34.534,0:00:38.124 Cymraeg ydy iaith y teulu[br]a iaith yr aelwyd 0:00:38.124,0:00:41.114 wedi bod ers blynyddoedd. 0:00:41.114,0:00:44.501 Ac yn wir, pan oeddwn i'n mynd[br]i'r ysgol yn Llangefni 0:00:44.509,0:00:50.859 mi oedd 95% o bobl yr[br]ynys yn siarad Cymraeg 0:00:50.859,0:00:54.987 ond mae'r ffigwr hwnnw wedi[br]gostwng dipyn erbyn hyn. 0:00:54.987,0:00:58.679 'Ta waeth, o'r ysgol gynradd mi es i[br]wedyn i'r ysgol uwchradd 0:00:58.679,0:01:01.814 a mwynhau fy hyn yn fawr[br]iawn yn yr fan honno, 0:01:01.814,0:01:05.161 oherwydd nes i ddechrau[br]ymddiddori mewn actio 0:01:05.161,0:01:09.418 ac mi ges i gyfle hefyd i fynd[br]i'r stiwdios ym Mangor 0:01:09.418,0:01:11.097 i actio ar y radio. 0:01:11.102,0:01:13.942 Roedd Mam ei hun yn actores 0:01:13.942,0:01:17.211 ac yn ei llaw hi o'n i'n[br]mynd draw i'r stiwdio 0:01:17.211,0:01:20.797 yn gwylio'r actorion eraill wrthi,[br]yn eistedd yn dawel yn y gornel. 0:01:20.797,0:01:24.260 Ac wedyn un diwrnod,[br]fe ges i gyfle i actio 0:01:24.260,0:01:26.318 a dwi'n cofio diwrnod hwnnw yn dda iawn 0:01:26.318,0:01:29.042 fe ddaeth y cynghyrchydd at fy Mam 0:01:29.042,0:01:34.320 a gofyn oedd hi yn adnabod rhywun[br]buasai'n hoffi actio ar y radio 0:01:34.320,0:01:38.640 rhan bachgen yn [br]yr opera sebon "Teulu'r Siop" 0:01:38.640,0:01:41.828 yr opera sebon Gymraeg gyntaf[br]ar y radio, fel mae'n digwydd 0:01:41.828,0:01:44.805 ac fe ddudodd Mam,[br]"Wel mae Hywel", sef fi 0:01:44.810,0:01:46.877 "Mae Hywel yn actio" 0:01:46.877,0:01:49.896 "Efallai buasai fo yn eu gwneud." 0:01:49.896,0:01:53.169 A dyma Wilbert Lloyd Roberts[br]yn rhoi'r sgript i mi 0:01:53.169,0:01:55.727 a nes i ddarllen y sgript yn syth bin 0:01:55.728,0:01:59.218 ac mi ddudodd o "Wel, mae hwn yn actor." 0:01:59.218,0:02:01.291 Dim yn gwybod [br]sut oedd o'n gwybod hynny 0:02:01.291,0:02:03.915 ond mi oedd honno'n[br]proffwydoliaeth gywir iawn 0:02:03.915,0:02:07.404 oherwydd beth digwyddodd,[br]i neidio ymlaen ychydig bach 0:02:07.404,0:02:11.738 me ddes i yma i Gaerdydd ym 1960 0:02:11.738,0:02:15.447 i fynd i'r coleg cerdd a drama. 0:02:15.452,0:02:17.882 Did i ddysgu sut i actio,[br]fel mae'n digwydd 0:02:17.882,0:02:21.823 ond i ddysgu sut i fod yn athro drama. 0:02:21.823,0:02:26.161 A gyda llaw, mi roedd y coleg yn y[br]castell yma yng Nghaerdydd 0:02:26.173,0:02:28.573 tu mewn i furiau'r castell 0:02:28.573,0:02:31.758 ac mi oedd o'n ddwy flynedd hapus iawn. 0:02:31.763,0:02:34.049 Ar ddiwedd y cyfnod hwnnw 0:02:34.049,0:02:36.258 fe ges i wedyn dystiolaeth 0:02:36.258,0:02:40.736 fod i'n digon dda i fod[br]yn athro drama, 0:02:40.736,0:02:43.487 ac yn wir, roedd gen i[br]swydd i fynd iddi. 0:02:43.487,0:02:46.169 Tystysgrif, swydd i fynd iddi hi 0:02:46.172,0:02:48.342 lawr y ffordd ym Mynydd Cynffig. 0:02:48.342,0:02:52.593 Ond be digwyddodd oedd fy mod i wedi[br]mynd i weithio rhan amser 0:02:52.593,0:02:57.567 gyda'r nôs yn ystod yr hâf,[br]i ennill ychydig o arian 0:02:57.567,0:03:00.803 cyn i mi fynd i ddysgu, felly. 0:03:00.803,0:03:04.021 A phwy ddaeth i mewn i'r[br]lle ble roedd i'n gweithio 0:03:04.021,0:03:06.542 yn y Borough Arms yma yn Nghaerdydd 0:03:06.542,0:03:08.055 ond criw o'r BBC. 0:03:08.055,0:03:09.987 Ac i dorri stori hir yn fyr 0:03:09.987,0:03:14.324 bydd nhw'n ofyn i fi i wedyn i fynd draw[br]i'r stiwdio ymhen rhwy ddau fis 0:03:14.324,0:03:16.520 er mwyn i mi, fel roeddwn i'n meddwl 0:03:16.521,0:03:19.114 er mwyn i mi cael cyfle i[br]siarad am fy nghwaith 0:03:19.118,0:03:21.598 ond ar ôl cyrraedd yr hyn [br]roedden nhw eisiau i mi wneud 0:03:21.598,0:03:26.272 oedd bod yn rhan o dîm y rhaglen "Heddiw", 0:03:26.272,0:03:28.890 rhaglen cylchgrawn ddyddiol. 0:03:28.890,0:03:31.876 Ac roeddwn i fod i mynd allan ar ffilm 0:03:31.901,0:03:36.930 yn dod â rhan o Gymru tu allan i'r[br]stiwdio yng nghefngwlad Cymru 0:03:36.934,0:03:40.464 i mewn i'r stiwdio ac i mewn i'r rhaglen. 0:03:40.464,0:03:45.077 Ac fe ges i gynnig pryd hynny [br]dri mis o waith 0:03:45.077,0:03:48.521 a bellach, dwi wedi bod efo'r BBC[br]ers hanner can mlynedd. 0:03:48.521,0:03:51.215 Yn wir, rydw i'n dathlu hynny eleni, 0:03:51.215,0:03:53.451 hanner can mlynedd o ddarlledu 0:03:53.451,0:03:55.401 a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg hefyd 0:03:55.401,0:03:57.569 dwi 'di wedi bod yn ffodus iawn 0:03:57.569,0:03:58.786 ym mod i, mewn gwirionedd 0:03:58.786,0:04:01.845 wedi cael fy nhalu [br]am yr holl flynyddoedd yna 0:04:02.936,0:04:04.796 dwi'n siarad fy iaith fy hun 0:04:04.796,0:04:08.071 neu fel byddaf i'n dweud, wrando [br]ar bobl eraill yn siarad y Gymraeg 0:04:08.071,0:04:09.478 felly beth dwi wedi gwneud? 0:04:09.478,0:04:12.654 Yn ystod y cyfnod yma, dwi 'di[br]bod o gwmpas y byd 0:04:12.664,0:04:15.593 dwi 'di bod yn Fflorida yn yr America. 0:04:15.593,0:04:18.251 Dwi 'di bod ym Mhatagonia hefyd, [br]yn Nhe America. 0:04:18.775,0:04:21.828 Dwi 'di bod mor bell a Sarawak a Borneo. 0:04:21.828,0:04:23.827 Dwi wedi bod yn crwydro gwledydd Ewrop 0:04:23.827,0:04:27.710 yn ffilmio rhaglenni ar gyfer plant 0:04:27.710,0:04:29.123 nôl yn y 70au. 0:04:29.123,0:04:33.324 Wedyn yn yr 80au fe wnes i[br]gyfres o'r enw "Ar dy Feic" 0:04:33.324,0:04:36.060 a mi es i mor bell a Beijing yn Tseina, 0:04:36.060,0:04:39.052 dwi'n cofio'n dda ac roedd hwnnw[br]yn brofiad a hanner. 0:04:39.052,0:04:42.201 Felly dwi'n cyfru fy hun ddyn ffodus iawn 0:04:42.201,0:04:46.651 ym mod i nid yn unig wedi cael gwneud[br]beth dwi'n gallu neud yn naturiol, 0:04:46.651,0:04:50.434 gallech chi ddweud, sef siarad[br]pymtheg i'r dwsin 0:04:50.437,0:04:53.157 ond fy mod wedi cael gwiath mor ddiddorol 0:04:53.157,0:04:55.179 a mor amrywiol hefyd 0:04:55.179,0:04:58.150 ac yn ddiweddar dwi 'di mynd lawr[br]rhyw ffordd bach arall 0:04:58.150,0:05:00.384 a dwi 'di bod yn sgwennu llyfrau. 0:05:00.384,0:05:02.882 A dwi' di sgwennu un llyfr[br]am Huw Griffith 0:05:02.882,0:05:04.635 oedd yn actor enwog iawn 0:05:04.635,0:05:09.152 mae'n siwr fod chi'n gwybod am y ffilm[br]'Ben Hur' efo Charlton Heston. 0:05:09.152,0:05:14.610 Wel, Huw Griffith ennillodd yr Oscar am[br]bod yn actor cymorthwyol yn y ffilm yna. 0:05:14.610,0:05:17.636 Wel, mi allwn i mynd ymlaen[br]wrth gwrs am oriau 0:05:17.636,0:05:19.717 yn siarad am yr hyn 'dwi wedi wneud 0:05:19.717,0:05:22.920 ond dyna chi bwts bach o fy hanes i. 0:05:22.920,0:05:25.388 Mae hi wedi bod yn braf iawn[br]yn cael sgwrsio efo chi 0:05:25.388,0:05:27.196 a hynny yn fy iaith fy hun. 0:05:27.196,0:05:29.945 Mae yna hanner miliwn ohonyn[br]ni yng Nghymru rwan 0:05:29.945,0:05:32.076 yn siarad yr iaith 0:05:32.092,0:05:33.668 ac er i bod hi yn edwino 0:05:33.668,0:05:36.909 mae yna ymgyrchoedd cryf iawn rwan 0:05:36.909,0:05:38.329 i'w chadw hi'n fyw. 0:05:38.329,0:05:41.208 Felly diolch yn fawr i chi am wrando, 0:05:41.208,0:05:42.725 thank you for listening. 0:05:42.725,0:05:43.515 Hwyl fawr!