Fy enw i ydy Hywel Gwynfryn
a dwi'n gweithio fel darlledwr i'r BBC.
BBC Cymru, ag yma yn y brif
ddinas yng Nghaerdydd
ydw i'n byw ac yn gweithio.
Ond mae'r daith yn cychwyn nôl yn 1942
Dyna pryd ces i fy ngheni yn
Llangefni, Sir Fôn.
Ynys fechan ydy Sir Fôn oddi ar
arfordir Gogledd Cymru.
Wedyn mi es i i'r ysgol gynradd yno
pan oedd i'n tua chwech oed
ac mi rhaid i fi ddysgu'r Saesneg
oherwydd Cymraeg ydy'r iaith cyntaf,
Cymraeg ydy iaith y teulu
a iaith yr aelwyd
wedi bod ers blynyddoedd.
Ac yn wir, pan oeddwn i'n mynd
i'r ysgol yn Llangefni
mi oedd 95% o bobl yr
ynys yn siarad Cymraeg
ond mae'r ffigwr hwnnw wedi
gostwng dipyn erbyn hyn.
'Ta waeth, o'r ysgol gynradd mi es i
wedyn i'r ysgol uwchradd
a mwynhau fy hyn yn fawr
iawn yn yr fan honno,
oherwydd nes i ddechrau
ymddiddori mewn actio
ac mi ges i gyfle hefyd i fynd
i'r stiwdios ym Mangor
i actio ar y radio.
Roedd Mam ei hun yn actores
ac yn ei llaw hi o'n i'n
mynd draw i'r stiwdio
yn gwylio'r actorion eraill wrthi,
yn eistedd yn dawel yn y gornel.
Ac wedyn un diwrnod,
fe ges i gyfle i actio
a dwi'n cofio diwrnod hwnnw yn dda iawn
fe ddaeth y cynghyrchydd at fy Mam
a gofyn oedd hi yn adnabod rhywun
buasai'n hoffi actio ar y radio
rhan bachgen yn
yr opera sebon "Teulu'r Siop"
yr opera sebon Gymraeg gyntaf
ar y radio, fel mae'n digwydd
ac fe ddudodd Mam,
"Wel mae Hywel", sef fi
"Mae Hywel yn actio"
"Efallai buasai fo yn eu gwneud."
A dyma Wilbert Lloyd Roberts
yn rhoi'r sgript i mi
a nes i ddarllen y sgript yn syth bin
ac mi ddudodd o "Wel, mae hwn yn actor."
Dim yn gwybod
sut oedd o'n gwybod hynny
ond mi oedd honno'n
proffwydoliaeth gywir iawn
oherwydd beth digwyddodd,
i neidio ymlaen ychydig bach
me ddes i yma i Gaerdydd ym 1960
i fynd i'r coleg cerdd a drama.
Did i ddysgu sut i actio,
fel mae'n digwydd
ond i ddysgu sut i fod yn athro drama.
A gyda llaw, mi roedd y coleg yn y
castell yma yng Nghaerdydd
tu mewn i furiau'r castell
ac mi oedd o'n ddwy flynedd hapus iawn.
Ar ddiwedd y cyfnod hwnnw
fe ges i wedyn dystiolaeth
fod i'n digon dda i fod
yn athro drama,
ac yn wir, roedd gen i
swydd i fynd iddi.
Tystysgrif, swydd i fynd iddi hi
lawr y ffordd ym Mynydd Cynffig.
Ond be digwyddodd oedd fy mod i wedi
mynd i weithio rhan amser
gyda'r nôs yn ystod yr hâf,
i ennill ychydig o arian
cyn i mi fynd i ddysgu, felly.
A phwy ddaeth i mewn i'r
lle ble roedd i'n gweithio
yn y Borough Arms yma yn Nghaerdydd
ond criw o'r BBC.
Ac i dorri stori hir yn fyr
bydd nhw'n ofyn i fi i wedyn i fynd draw
i'r stiwdio ymhen rhwy ddau fis
er mwyn i mi, fel roeddwn i'n meddwl
er mwyn i mi cael cyfle i
siarad am fy nghwaith
ond ar ôl cyrraedd yr hyn
roedden nhw eisiau i mi wneud
oedd bod yn rhan o dîm y rhaglen "Heddiw",
rhaglen cylchgrawn ddyddiol.
Ac roeddwn i fod i mynd allan ar ffilm
yn dod â rhan o Gymru tu allan i'r
stiwdio yng nghefngwlad Cymru
i mewn i'r stiwdio ac i mewn i'r rhaglen.
Ac fe ges i gynnig pryd hynny
dri mis o waith
a bellach, dwi wedi bod efo'r BBC
ers hanner can mlynedd.
Yn wir, rydw i'n dathlu hynny eleni,
hanner can mlynedd o ddarlledu
a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg hefyd
dwi 'di wedi bod yn ffodus iawn
ym mod i, mewn gwirionedd
wedi cael fy nhalu
am yr holl flynyddoedd yna
dwi'n siarad fy iaith fy hun
neu fel byddaf i'n dweud, wrando
ar bobl eraill yn siarad y Gymraeg
felly beth dwi wedi gwneud?
Yn ystod y cyfnod yma, dwi 'di
bod o gwmpas y byd
dwi 'di bod yn Fflorida yn yr America.
Dwi 'di bod ym Mhatagonia hefyd,
yn Nhe America.
Dwi 'di bod mor bell a Sarawak a Borneo.
Dwi wedi bod yn crwydro gwledydd Ewrop
yn ffilmio rhaglenni ar gyfer plant
nôl yn y 70au.
Wedyn yn yr 80au fe wnes i
gyfres o'r enw "Ar dy Feic"
a mi es i mor bell a Beijing yn Tseina,
dwi'n cofio'n dda ac roedd hwnnw
yn brofiad a hanner.
Felly dwi'n cyfru fy hun ddyn ffodus iawn
ym mod i nid yn unig wedi cael gwneud
beth dwi'n gallu neud yn naturiol,
gallech chi ddweud, sef siarad
pymtheg i'r dwsin
ond fy mod wedi cael gwiath mor ddiddorol
a mor amrywiol hefyd
ac yn ddiweddar dwi 'di mynd lawr
rhyw ffordd bach arall
a dwi 'di bod yn sgwennu llyfrau.
A dwi' di sgwennu un llyfr
am Huw Griffith
oedd yn actor enwog iawn
mae'n siwr fod chi'n gwybod am y ffilm
'Ben Hur' efo Charlton Heston.
Wel, Huw Griffith ennillodd yr Oscar am
bod yn actor cymorthwyol yn y ffilm yna.
Wel, mi allwn i mynd ymlaen
wrth gwrs am oriau
yn siarad am yr hyn 'dwi wedi wneud
ond dyna chi bwts bach o fy hanes i.
Mae hi wedi bod yn braf iawn
yn cael sgwrsio efo chi
a hynny yn fy iaith fy hun.
Mae yna hanner miliwn ohonyn
ni yng Nghymru rwan
yn siarad yr iaith
ac er i bod hi yn edwino
mae yna ymgyrchoedd cryf iawn rwan
i'w chadw hi'n fyw.
Felly diolch yn fawr i chi am wrando,
thank you for listening.
Hwyl fawr!