WordPress 4.6 [Jazzer]
ar ôl yr arwr Jazz [Jazzer]
cyflawni, yn gynt
p'un ai rydych yn ychwanegu thema
diweddaru ategion eich gwefan
neu lywio eich bwrdd gwaith WordPress
Mae WordPress 4.6 yn cynnwys llif gwaith symlach
ar gyfer ychwanegu—a gweithredu—
themâu neu ategion newydd ar eich gwefan.
Byddwch chi byth yn colli eich lle
wrth gyflawni'r tasgau hyn;
mae popeth yn digwydd ar yr un sgrin.
Mae gwelliannau i'r golygydd yn WordPress 4.6
yn ei wneud yn fwy clyfar nag erioed.
Os fyddwch yn ychwanegu dolen sydd wedi torri
bydd WordPress yn rhybuddio,
fel bod modd diweddaru'r ddolen cyn cyhoeddi eich gwefan.
Os fyddwch yn colli eich cysylltiad gwe tra'n ysgrifennu,
mae'n dda gwybod fod copïau drafft
ar gadw'n lleol ar eich porwr.
Pan fyddwch yn dychwelyd i olygu
bydd WordPress yn nodi unrhyw drafft mwy diweddar
fel bod dim yn cael ei golli.
Efallai i chi sylwi fod ffontiau ychydig yn wahanol
wrth i chi reoli eich gwefan.
Mae eich bwrdd gwaith WordPress nawr yn defnyddio'r
un ffontiau cynhenid â'ch system weithredu
sy'n golygu fod tudalennau'n llwytho'n gynt
ac mae perfformiad yn well yn gyffredinol.
Yn ychwanegol at bopeth rydych yn ei weld
mae WordPress 4.6 yn cynnwys llawer o welliannau
perfformiad a sefydlogrwydd
i'r feddalwedd rydych yn dibynnu arni bob dydd.
WordPress 4.6 [Jazzer]
diweddariad amgen
yn cyflawni, yn gynt.