WEBVTT 00:00:00.280 --> 00:00:07.270 (Cerddoriaeth Gefndirol) Roedd gen i Gi Du. Ei enw oedd iselder. 00:00:07.270 --> 00:00:10.090 Pryd bynnag y byddai'r Ci Du yn dod i'r golwg, byddwn i'n teimlo'n wag 00:00:10.090 --> 00:00:15.219 a byddai bywyd fel petai'n arafu. Byddai'n ymweld â mi'n annisgwyl heb reswm 00:00:15.219 --> 00:00:19.090 nac achlysur. Achosodd y Ci Du i mi edrych 00:00:19.090 --> 00:00:22.289 a theimlo'n hŷn nag oeddwn i. 00:00:22.289 --> 00:00:24.690 Pan oedd gweddill y byd i'w gweld yn mwynhau bywyd. 00:00:24.690 --> 00:00:29.130 Dim ond drwy'r Ci Du allwn i weld bywyd. Roedd gweithgareddau'r oeddwn i'n eu 00:00:29.130 --> 00:00:30.250 mwynhau fel arfer 00:00:30.250 --> 00:00:34.900 bellach yn fy niflasu. Roedd yn hoff o ddifetha fy chwant am fwyd. 00:00:34.900 --> 00:00:38.190 Dinistriodd fy nghof 00:00:38.190 --> 00:00:41.380 a'm gallu i ganolbwyntio. 00:00:41.380 --> 00:00:44.390 Roedd gwneud unrhyw beth neu fynd i unrhyw le gyda'r Ci Du 00:00:44.390 --> 00:00:49.180 yn gofyn am gryfder goruwchddynol. Yn ystod achlysuron cymdeithasol, 00:00:49.180 --> 00:00:54.190 byddai'n arogleuo'r ychydig hyder oedd gen i ac yn ei hel ymaith. Fy ofn pennaf 00:00:54.190 --> 00:00:58.739 oedd y byddai pobl yn dod i wybod - roeddwn i'n poeni y byddai pobl yn fy meirniadu, oherwydd cywilydd a 00:00:58.739 --> 00:00:59.410 stigma 00:00:59.410 --> 00:01:02.760 y Ci Du. Roeddwn bob amser yn poeni y byddai pobl yn dod i wybod. 00:01:02.760 --> 00:01:06.900 felly gwnes lawer o ymdrech i'w guddio. 00:01:06.900 --> 00:01:11.010 Mae dweud celwydd emosiynol am amser hir yn gorfforol lafurus. 00:01:11.010 --> 00:01:14.360 Gallai'r Ci Du wneud i mi feddwl a dweud pethau negyddol. 00:01:15.330 --> 00:01:19.060 Gallai fy ngwneud yn flin ac yn anodd i fod o'm cwmpas. 00:01:19.060 --> 00:01:22.380 Byddai'n cymryd fy nghariad 00:01:22.380 --> 00:01:25.690 ac yn claddu fy agosatrwydd. 00:01:25.690 --> 00:01:28.850 Byddai wrth ei fodd yn fy neffro gyda meddyliau ailadroddus 00:01:28.850 --> 00:01:32.700 a negyddol iawn. Roedd hefyd yn hoffi fy atgoffa o ba mor flinedig y byddwn i 00:01:32.700 --> 00:01:33.580 y diwrnod nesaf. 00:01:33.580 --> 00:01:37.430 Dyw cael Ci Du yn eich bywyd ddim yn golygu teimlo ychydig yn 00:01:37.430 --> 00:01:41.780 isel neu'n drist. Ar ei waethaf, mae'n golygu bod yn rhydd o deimlad 00:01:41.780 --> 00:01:45.360 yn gyfan gwbl. Wrth i mi fynd yn hŷn, aeth y Ci Du yn fwy 00:01:45.360 --> 00:01:49.060 a dechreuodd ymweld â mi drwy'r amser. 00:01:49.060 --> 00:01:53.280 Byddwn i'n ceisio gwneud popeth i gael gwared arno 00:01:53.280 --> 00:01:57.430 Ond yn amlach na pheidio, ef fyddai'n ennill y dydd. Daeth teimlo'n isel yn haws 00:01:57.430 --> 00:01:59.080 na chodi'n hun i fyny unwaith eto. 00:01:59.080 --> 00:02:02.160 Felly des yn eithaf da am roi triniaeth feddygol i mi fy hun. 00:02:02.160 --> 00:02:06.840 Ond doedd hynny ddim yn helpu rhyw lawer. 00:02:06.840 --> 00:02:10.940 Yn y pen draw, roeddwn i'n teimlo'n hollol ar wahân oddi wrth bawb a phopeth. 00:02:10.940 --> 00:02:15.060 O'r diwedd, roedd y Ci Du wedi llwyddo i 00:02:15.060 --> 00:02:19.550 herwgipio fy mywyd. Pan fyddwch chi'n colli pob hapusrwydd mewn bywyd, gallwch ddechrau cwestiynu beth 00:02:19.550 --> 00:02:21.680 yw ei bwrpas. 00:02:21.680 --> 00:02:25.170 Diolch byth, dyma'r adeg y ces i help proffesiynol. 00:02:25.170 --> 00:02:29.280 Hwn oedd fy ngham cyntaf tuag at wella ac roedd yn drobwynt mawr yn fy mywyd. 00:02:29.280 --> 00:02:33.320 Dysgais nad oes ots pwy ydych chi, mae'r Ci Du yn effeithio ar 00:02:33.320 --> 00:02:34.370 filiynau o bobl. 00:02:34.370 --> 00:02:37.120 Mae'n fwngrel cyfle cyfartal. 00:02:37.120 --> 00:02:40.060 Dysgais hefyd nad oes unrhyw fwled arian na philsen hud. 00:02:40.060 --> 00:02:43.260 Gall meddyginiaeth helpu rhai pobl ac efallai y bydd angen dull gwahanol ar eraill 00:02:43.260 --> 00:02:43.870 yn gyfan gwbl. 00:02:43.870 --> 00:02:47.620 Dysgais hefyd fod siarad yn agored ac yn onest 00:02:47.620 --> 00:02:52.420 gyda'r rhai sy'n agos atoch newid eich bywyd yn gyfan gwbl. 00:02:52.420 --> 00:02:55.530 Yn bwysicaf oll, dysgais i beidio â bod ofn y Ci Du 00:02:55.530 --> 00:02:59.580 a dysgais rywfaint o driciau newydd iddo fy hun. 00:02:59.580 --> 00:03:03.440 Po fwyaf blinedig ac o dan bwysau rydych, y mwyaf y bydd yn cyfarth. Felly mae'n bwysig deall 00:03:03.440 --> 00:03:06.209 sut i dawelu eich meddwl. 00:03:06.209 --> 00:03:09.560 Mae tystiolaeth glinigol bod ymarfer corff rheolaidd yn gallu bod yr un mor effeithiol o ran 00:03:09.560 --> 00:03:11.500 trin iselder ysgafn i gymedrol 00:03:11.500 --> 00:03:15.870 â chyffuriau gwrth-iselder. Mynd am dro neu redeg a gadael y ci ar ôl. 00:03:15.870 --> 00:03:19.140 Cadwch ddyddiadur o'ch hwyliau. Gall ysgrifennu eich teimladau ar bapur fod yn gathartig, 00:03:19.140 --> 00:03:23.760 sy'n taflu goleuni yn aml. Hefyd, cadwch gofnod o'r pethau sydd gennych i fod yn ddiolchgar amdanynt 00:03:23.760 --> 00:03:27.080 Y peth pwysicaf i'w gofio yw waeth pa mor 00:03:27.080 --> 00:03:30.170 ddrwg y bydd pethau'n mynd. Os byddwn yn cymryd y camau cywir 00:03:30.170 --> 00:03:34.480 ac yn siarad â'r bobl gywir, bydd Dyddiau'r Ci Du yn cilio. 00:03:34.480 --> 00:03:37.410 Fyddwn i ddim yn dweud fy mod i'n ddiolchgar i'r Ci Du, ond mae wedi bod yn 00:03:37.410 --> 00:03:38.500 athro gwych. 00:03:38.500 --> 00:03:41.700 Gorfododd fi i ail-werthuso a symleiddio fy mywyd. 00:03:41.700 --> 00:03:45.380 Yn hytrach na rhedeg i ffwrdd o'm problemau, dysgais ei bod hi'n well eu 00:03:45.380 --> 00:03:45.830 croesawu. 00:03:45.830 --> 00:03:49.200 Efallai y bydd y Ci Du yn rhan o'm bywyd am byth 00:03:49.200 --> 00:03:52.410 ond fydd e byth fel y bwystfil a fu. Mae gennym 00:03:52.410 --> 00:03:56.030 ddealltwriaeth. Rwyf wedi dysgu drwy wybodaeth, amynedd, 00:03:56.030 --> 00:04:00.230 disgyblaeth a hiwmor bod modd rhoi trefn ar y Ci Du gwaethaf. 00:04:00.230 --> 00:04:03.540 Os ydych yn cael trafferth, peidiwch byth â bod ofn gofyn am help. 00:04:03.540 --> 00:04:07.109 Does dim cywilydd o gwbl mewn gwneud hynny. Yr unig gywilydd 00:04:07.109 --> 00:04:07.910 yw colli allan ar fywyd.