(Cerddoriaeth Gefndirol) Roedd gen i Gi Du. Ei enw oedd iselder. Pryd bynnag y byddai'r Ci Du yn dod i'r golwg, byddwn i'n teimlo'n wag a byddai bywyd fel petai'n arafu. Byddai'n ymweld â mi'n annisgwyl heb reswm nac achlysur. Achosodd y Ci Du i mi edrych a theimlo'n hŷn nag oeddwn i. Pan oedd gweddill y byd i'w gweld yn mwynhau bywyd. Dim ond drwy'r Ci Du allwn i weld bywyd. Roedd gweithgareddau'r oeddwn i'n eu mwynhau fel arfer bellach yn fy niflasu. Roedd yn hoff o ddifetha fy chwant am fwyd. Dinistriodd fy nghof a'm gallu i ganolbwyntio. Roedd gwneud unrhyw beth neu fynd i unrhyw le gyda'r Ci Du yn gofyn am gryfder goruwchddynol. Yn ystod achlysuron cymdeithasol, byddai'n arogleuo'r ychydig hyder oedd gen i ac yn ei hel ymaith. Fy ofn pennaf oedd y byddai pobl yn dod i wybod - roeddwn i'n poeni y byddai pobl yn fy meirniadu, oherwydd cywilydd a stigma y Ci Du. Roeddwn bob amser yn poeni y byddai pobl yn dod i wybod. felly gwnes lawer o ymdrech i'w guddio. Mae dweud celwydd emosiynol am amser hir yn gorfforol lafurus. Gallai'r Ci Du wneud i mi feddwl a dweud pethau negyddol. Gallai fy ngwneud yn flin ac yn anodd i fod o'm cwmpas. Byddai'n cymryd fy nghariad ac yn claddu fy agosatrwydd. Byddai wrth ei fodd yn fy neffro gyda meddyliau ailadroddus a negyddol iawn. Roedd hefyd yn hoffi fy atgoffa o ba mor flinedig y byddwn i y diwrnod nesaf. Dyw cael Ci Du yn eich bywyd ddim yn golygu teimlo ychydig yn isel neu'n drist. Ar ei waethaf, mae'n golygu bod yn rhydd o deimlad yn gyfan gwbl. Wrth i mi fynd yn hŷn, aeth y Ci Du yn fwy a dechreuodd ymweld â mi drwy'r amser. Byddwn i'n ceisio gwneud popeth i gael gwared arno Ond yn amlach na pheidio, ef fyddai'n ennill y dydd. Daeth teimlo'n isel yn haws na chodi'n hun i fyny unwaith eto. Felly des yn eithaf da am roi triniaeth feddygol i mi fy hun. Ond doedd hynny ddim yn helpu rhyw lawer. Yn y pen draw, roeddwn i'n teimlo'n hollol ar wahân oddi wrth bawb a phopeth. O'r diwedd, roedd y Ci Du wedi llwyddo i herwgipio fy mywyd. Pan fyddwch chi'n colli pob hapusrwydd mewn bywyd, gallwch ddechrau cwestiynu beth yw ei bwrpas. Diolch byth, dyma'r adeg y ces i help proffesiynol. Hwn oedd fy ngham cyntaf tuag at wella ac roedd yn drobwynt mawr yn fy mywyd. Dysgais nad oes ots pwy ydych chi, mae'r Ci Du yn effeithio ar filiynau o bobl. Mae'n fwngrel cyfle cyfartal. Dysgais hefyd nad oes unrhyw fwled arian na philsen hud. Gall meddyginiaeth helpu rhai pobl ac efallai y bydd angen dull gwahanol ar eraill yn gyfan gwbl. Dysgais hefyd fod siarad yn agored ac yn onest gyda'r rhai sy'n agos atoch newid eich bywyd yn gyfan gwbl. Yn bwysicaf oll, dysgais i beidio â bod ofn y Ci Du a dysgais rywfaint o driciau newydd iddo fy hun. Po fwyaf blinedig ac o dan bwysau rydych, y mwyaf y bydd yn cyfarth. Felly mae'n bwysig deall sut i dawelu eich meddwl. Mae tystiolaeth glinigol bod ymarfer corff rheolaidd yn gallu bod yr un mor effeithiol o ran trin iselder ysgafn i gymedrol â chyffuriau gwrth-iselder. Mynd am dro neu redeg a gadael y ci ar ôl. Cadwch ddyddiadur o'ch hwyliau. Gall ysgrifennu eich teimladau ar bapur fod yn gathartig, sy'n taflu goleuni yn aml. Hefyd, cadwch gofnod o'r pethau sydd gennych i fod yn ddiolchgar amdanynt Y peth pwysicaf i'w gofio yw waeth pa mor ddrwg y bydd pethau'n mynd. Os byddwn yn cymryd y camau cywir ac yn siarad â'r bobl gywir, bydd Dyddiau'r Ci Du yn cilio. Fyddwn i ddim yn dweud fy mod i'n ddiolchgar i'r Ci Du, ond mae wedi bod yn athro gwych. Gorfododd fi i ail-werthuso a symleiddio fy mywyd. Yn hytrach na rhedeg i ffwrdd o'm problemau, dysgais ei bod hi'n well eu croesawu. Efallai y bydd y Ci Du yn rhan o'm bywyd am byth ond fydd e byth fel y bwystfil a fu. Mae gennym ddealltwriaeth. Rwyf wedi dysgu drwy wybodaeth, amynedd, disgyblaeth a hiwmor bod modd rhoi trefn ar y Ci Du gwaethaf. Os ydych yn cael trafferth, peidiwch byth â bod ofn gofyn am help. Does dim cywilydd o gwbl mewn gwneud hynny. Yr unig gywilydd yw colli allan ar fywyd.