(Cerddoriaeth Gefndirol)
Roedd gen i Gi Du. Ei enw oedd
iselder.
Pryd bynnag y byddai'r Ci Du yn dod i'r golwg, byddwn i'n teimlo'n wag
a byddai bywyd fel petai'n arafu. Byddai'n
ymweld â mi'n annisgwyl heb reswm
nac achlysur. Achosodd y Ci Du i mi edrych
a theimlo'n hŷn nag oeddwn i.
Pan oedd gweddill y byd i'w gweld yn
mwynhau bywyd.
Dim ond drwy'r Ci Du allwn i weld bywyd.
Roedd gweithgareddau'r oeddwn i'n eu
mwynhau fel arfer
bellach yn fy niflasu. Roedd yn hoff o ddifetha
fy chwant am fwyd.
Dinistriodd fy nghof
a'm gallu i ganolbwyntio.
Roedd gwneud unrhyw beth neu fynd i unrhyw le gyda'r
Ci Du
yn gofyn am gryfder goruwchddynol. Yn ystod achlysuron
cymdeithasol,
byddai'n arogleuo'r ychydig hyder oedd gen i ac yn ei hel
ymaith. Fy ofn pennaf
oedd y byddai pobl yn dod i wybod - roeddwn i'n poeni y byddai
pobl yn fy meirniadu, oherwydd cywilydd a
stigma
y Ci Du. Roeddwn bob amser yn poeni y byddai pobl yn dod i wybod.
felly gwnes lawer o ymdrech i'w
guddio.
Mae dweud celwydd emosiynol am amser hir yn gorfforol lafurus.
Gallai'r Ci Du wneud i mi feddwl a dweud
pethau negyddol.
Gallai fy ngwneud yn flin ac yn
anodd i fod o'm cwmpas.
Byddai'n cymryd fy nghariad
ac yn claddu fy agosatrwydd.
Byddai wrth ei fodd yn fy neffro
gyda meddyliau ailadroddus
a negyddol iawn. Roedd hefyd yn hoffi fy
atgoffa o ba mor flinedig y byddwn i
y diwrnod nesaf.
Dyw cael Ci Du yn eich bywyd ddim yn golygu
teimlo ychydig yn
isel neu'n drist. Ar ei waethaf, mae'n golygu
bod yn rhydd o deimlad
yn gyfan gwbl. Wrth i mi fynd yn hŷn, aeth y Ci Du yn fwy
a dechreuodd ymweld â mi drwy'r
amser.
Byddwn i'n ceisio gwneud popeth i gael gwared arno
Ond yn amlach na pheidio, ef fyddai'n
ennill y dydd. Daeth teimlo'n isel yn haws
na chodi'n hun i fyny unwaith eto.
Felly des yn eithaf da am
roi triniaeth feddygol i mi fy hun.
Ond doedd hynny ddim yn helpu rhyw lawer.
Yn y pen draw, roeddwn i'n teimlo'n hollol ar wahân oddi wrth
bawb a phopeth.
O'r diwedd, roedd y Ci Du wedi llwyddo i
herwgipio fy mywyd. Pan fyddwch chi'n colli pob hapusrwydd
mewn bywyd, gallwch ddechrau cwestiynu beth
yw ei bwrpas.
Diolch byth, dyma'r adeg y ces i
help proffesiynol.
Hwn oedd fy ngham cyntaf tuag at wella
ac roedd yn drobwynt mawr yn fy mywyd.
Dysgais nad oes ots pwy ydych chi,
mae'r Ci Du yn effeithio ar
filiynau o bobl.
Mae'n fwngrel cyfle cyfartal.
Dysgais hefyd nad oes unrhyw fwled arian
na philsen hud.
Gall meddyginiaeth helpu rhai pobl ac
efallai y bydd angen dull gwahanol ar eraill
yn gyfan gwbl.
Dysgais hefyd fod siarad yn
agored ac yn onest
gyda'r rhai sy'n agos atoch newid
eich bywyd yn gyfan gwbl.
Yn bwysicaf oll, dysgais i beidio â
bod ofn y Ci Du
a dysgais rywfaint o driciau newydd iddo fy hun.
Po fwyaf blinedig ac o dan bwysau rydych, y
mwyaf y bydd yn cyfarth. Felly mae'n bwysig deall
sut i dawelu eich meddwl.
Mae tystiolaeth glinigol
bod ymarfer corff rheolaidd yn gallu bod yr un mor effeithiol o ran
trin iselder ysgafn i gymedrol
â chyffuriau gwrth-iselder. Mynd am dro neu
redeg a gadael y ci ar ôl.
Cadwch ddyddiadur o'ch hwyliau. Gall ysgrifennu eich teimladau
ar bapur fod yn gathartig,
sy'n taflu goleuni yn aml. Hefyd, cadwch gofnod o'r
pethau sydd gennych i fod yn ddiolchgar amdanynt
Y peth pwysicaf i'w gofio yw
waeth pa mor
ddrwg y bydd pethau'n mynd. Os byddwn yn cymryd y camau cywir
ac yn siarad â'r bobl gywir, bydd Dyddiau'r Ci Du
yn cilio.
Fyddwn i ddim yn dweud fy mod i'n ddiolchgar i'r
Ci Du, ond mae wedi bod yn
athro gwych.
Gorfododd fi i ail-werthuso a symleiddio fy
mywyd.
Yn hytrach na rhedeg i ffwrdd
o'm problemau, dysgais ei bod hi'n well eu
croesawu.
Efallai y bydd y Ci Du yn rhan o'm
bywyd am byth
ond fydd e byth fel y bwystfil a fu.
Mae gennym
ddealltwriaeth. Rwyf wedi dysgu
drwy wybodaeth, amynedd,
disgyblaeth a hiwmor bod modd rhoi trefn ar y Ci Du gwaethaf.
Os ydych yn cael trafferth, peidiwch byth â bod ofn
gofyn am help.
Does dim cywilydd o gwbl mewn gwneud hynny.
Yr unig gywilydd
yw colli allan ar fywyd.