-
Mae llawer o bobl, yn fy nghynnwys i,
-
wedi ffeindio astudio'r Rhyfel Byd Cyntaf
-
ychydig yn gymhleth ar brydiau.
-
A dwi'n credu mai'r rheswm ydi, fod y byd yn wahanol iawn,
-
yn arwain at y Rhyfel Byd Cyntaf, nag ydyw heddiw.
-
Mae'r byd modern yr ydym yn byw ynddo wedi ei ystumio, i raddau helaeth
-
gan y Rhyfel Byd Cyntaf, ac yn ddiweddarach [gan] yr Ail Ryfel Byd.
-
Ac i wneud rhyw fath o synnwyr o sut
-
y mae'r byd modern yn edrych -
-
ac yn enwedig sut mae'r Ewrop fodern yn edrych -
-
dyma fap o'r Ewrop fodern.
-
Ond y peth diddorol am y map hwn ydi
-
yn hytrach na'i fod yn fap traddodiadol y byddwch fel arfer yn ei weld,
-
ble does dim ond ffiniau'r
-
gwledydd i'w gweld - mae gan hwn ffiniau'r gwledydd
-
reit yn fan hyn yn y llinellau bach llwyd hyn.
-
Mae rhain yn dangos ble mae Ffrainc yn gorffen a, dywedwch, ble mae'r Swistir
-
neu'r Almaen neu'r Eidal yn dechrau.
-
Ond yn troslunio hynny i gyd,
-
rydym yn gweld ble mae'r ieithoedd yn cael eu siarad.
-
Felly mae hwn wedi'i ganolbwyntio yn llawer
-
mwy ar, [er enghraifft], "Ble mae pobl yn siarad Ffrangeg?"
-
"Ble mae pobl yn siarad Almaeneg?"
-
A'r hyn a sylwch ydi - gan amlaf -
-
ar draws y rhan fwyaf o Ewrop, mae ffiniau heddiw -
-
y ffiniau modern - yn cyfateb yn eithaf agos
-
i ble mae'r ieithoedd yn cael eu siarad.
-
Mae yna rai ardaloedd ble nad oes cymaint o gysylltiad
-
[er enghraifft,] Catalaneg a Sbaeneg.
-
(A dweud y gwir, mae hynny'n arwain at rai problemau.)
-
Ond gan fwyaf, yn yr Ewrop fodern,
-
mae'r ffiniau ieithyddol a'r
-
ffiniau cenedlaethol yn cyfateb yn eithaf agos.
-
Petawn ni yn mynd yn ôl i'r byd cyn y Rhyfel Byd Cyntaf,
-
roedd pethau'n wahanol iawn.
-
Rydym yn adnabod rhai o'r ffiniau.
-
Rydym yn adnabod y Deyrnas Unedig.
-
(Wel, mae Iwerddon wedi gadael ers hynny.)
-
Ond dydi ffiniau'r Deyrnas Unedig
-
ddim yn hynod o wahanol i'r hyn ag yr oeddent bryd hynny.
-
Dydi Sbaen ddim yn hynod o wahanol.
-
Dydi Ffrainc ddim yn hynod o wahanol.
-
Dydi'r Eidal ddim yn hynod o wahanol.
-
Mae'r Almaen yn wahanol iawn.
-
A dweud y gwir, os cymerwch yr Almaen - neu'r Ymerodraeth
-
Almaenig - ar ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf, neu'n fuan yn y 1900au,
-
cyn 1914, rhyngddi ag Ymerodraeth Rwsia,
-
roeddent mewn gwirionedd wedi llyncu nifer o grwpiau
-
ieithyddol gwahanol, yn fan hyn,
-
sydd nawr gyda statws annibynnol eu hunain.
-
Y peth arall mae modd sylwi arno
-
ydi'r dalaith fawr hon a elwid yn "Awstrio-Hwngari" -
-
sy'n aml yn cael ei galw'n "Ymerodraeth Awstro-Hwngari."
-
Ac mae pobl yn dweud, "Wel,
-
rydw i'n gyfarwydd â rhai o'r gwledydd
-
sydd â'r geiriau 'Awstria a 'Hwngari' ynddynt.
-
Ond beth ydi Ymerodraeth Awstro-Hwngari?
-
A beth sydd yn ddiddorol am Awstrio-Hwngari
-
ydi ei bod wir yn ymerodraeth.
-
Roedd wir yn ceisio dwyn yr holl bobl hyn at ei gilydd
-
oedd yn siarad yr holl wahanol [ieithoedd] -
-
[ac oedd yn cynnwys] yr holl wahanol fathau o [darddiadau ethnig] hyn.
-
Mae hyn yn rhyw fath o olwg wedi'i chwyddo o'r Ymerodraeth Awstrio-Hwngari
-
yn arwain at y Rhyfel Byd Cyntaf.
-
Ac mae Ymerodraeth Awstro-Hwngari yn debyg o fod
-
yr ymerodraeth bwysicaf i edrych arni os ydym yn ceisio
-
deall sut y dechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf.
-
Oherwydd yn arwain at y Rhyfel Byd Cyntaf, ym 1908,
-
roedd Ymerodraeth Awstro-Hwngari
-
wedi uno Bosnia a Herzegovina yn ffurfiol
-
Ac mae hynny'n syniad arall cymhleth i nifer ohonom,
-
y ffaith fod 'Bosnia a Herzegovina'
-
mewn gwirionedd yn enw dim ond un wlad.
-
Mae'n cael ei alw'n "Bosnia a Herzegovina."
-
Neu mae'n debyg, ar gyfer yr Awstro-Hwngariaid
-
bryd hynny, yn un talaith y gwnaethant ei chydio wrth y wlad.
-
A beth sydd yn ddiddorol am hynny ydi
-
os ydych yn edrych ar y map ieithyddol,
-
gallwch weld fod yr holl ranbarth sydd yn fan hyn
-
[yn siarad] ieithoedd tebyg iawn: Serbaidd, Croataidd a Bosniaidd.
-
Maent oll wedi eu cysylltu yn ieithyddol ac yn ethnig.
-
Felly mae'r ardal gyfan yma yn fan hyn
-
wedi'i gysylltu yn ieithyddol ac yn ethnig.
-
A beth y gwelwn ydi mai'r awydd i gysylltu
-
pobl gyda chefndir ethnig a ieithyddol tebyg yw'r hyn arweiniodd at lawer o'r
-
hyn ddigwyddodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf-
-
neu yn hytrach, y sbarc a wnaeth [danio] -
-
mae pobl weithiau'n dweud -
-
y tanwydd a gaiff ei adnabod fel y Rhyfel Byd Cyntaf.
-
Y peth arall oedd yn wahanol iawn -
-
neu y wlad arall neu'r genedl neu'r ymerodraeth nad ydym
-
yn [gyfarwydd iawn â hi] heddiw yw "Ymerodraeth Ottoman."
-
Felly ar fap modern gallwn weld y wlad Twrci -
-
sydd mewn ffordd ar y Peninswla Anatolaidd
-
Felly dyma Twrci yn fan hyn.
-
Dyma'r Twrci fodern.
-
Ond cyn dechrau y Rhyfel Byd Cyntaf, ym 1914,
-
roed Twrci, mewn ffordd, [wedi'i ffurfio allan o] ran o
-
weddillion yr Ymerodraeth Ottoman.
-
Felly, dyma yn fan hyn sut yr oedd yr Ymerodraeth Ottoman yn edrych.
-
Dyma, fan hyn, yn fras yw'r Twrci fodern.
-
Roedd yr Ymerodraeth Ottoman yn cynnwys llawer o'r Twrci fodern,
-
a llawer o'r hyn y gelwir nawr yn 'Ddwyrain Canol',
-
gan gynnwys llawer o'r hyn sydd nawr yn Syria, Iraq, Lebanon, Israel
-
ac ychydig o'r hyn sydd nawr yn Saudi Arabia.
-
Roedd hyn bryd hynny yn rhan o'r Ymerodraeth Ottoman oedd ar farw.
-
Ar ei hanterth, roedd yr Ymerodraeth Ottoman yn rheoli rhan fwyaf o'r
-
byd Mwslemaidd. Roedd yn rheoli Gogledd Affrica,
-
yn ogystal ag ychydig o'r hyn y gwelwch yma -
-
ac hyd yn oed ychydig o Persia,
-
ac a dweud y gwir, rhan go fawr o'r Balcaniaid,
-
De-ddwyrain Ewrop, ac hyd yn oed Groeg ar ei hanterth.
-
Nawr, dwi'n cyfeirio at gannoedd
-
a channoedd o flynyddoedd yn ôl i heddiw.
-
Felly wrth gamu i'r Rhyfel Byd Cyntaf,
-
nid oes gennym fyd ble mae ffiniau'r gwledydd o'r rheidrwydd
-
yn cyfateb â ffiniau ieithoedd neu gefndir ethnig.
-
I raddau helaeth, roedd gennym ymedrodraethau a oedd wedi bodoli
-
fel yr oeddem yn gadael yr 19eg Ganrif.
-
A doedd yr ymedrodraethau hyn ddim yn Ewrop yn unig -
-
fel Ymerodraeth Awstrio-Hwngari -
-
na dim ond yn y Dwyrain Canol - fel Ymerodraeth Ottoman.
-
Mae'r map yma yn fan hyn yn fap ymerodraeth
-
yn ystod y cyfnod hwnnw mewn hanes.
-
A gallwch weld mae'n debyg mai'r ymerodraeth fwyaf blaenllaw
-
yw'r Ymerodraeth Brydeinig.
-
Dyna'r [ardal mewn] pinc [yma].
-
Dyna'r Deyrnas Unedig.
-
Byddai Prydain Fawr ddim ond yn cynnwys yr [ynys] yn fan hyn.
-
Wrth ymadael ag Iwerddon, fe gewch y Deyrnas Unedig.
-
Roedd Prydain Fawr yn rheoli
-
is-gyfandir India i gyd (yn Asia).
-
Er bod Yr Aifft rhywfodd yn annibynnol,
-
roedd gan Brydain Fawr ddylanwad mawr yma.
-
Ym amlwg, roedd llefydd fel Canada ac Awstralia
-
a Seland Newydd o dan reolaeth yr Ymerodraeth Brydeinig,
-
neu ran o'r Ymerodraeth Brydeinig.
-
Wel, beth nad ydi llawer yn ei sylweddoli ydi bod
-
rhan sylweddol o Affrica hefyd o dan reolaeth Brydeinig.
-
A beth sydd gennym, wrth arwain at y Rhyfel Byd Cyntaf,
-
ydi rhyw fath o rhas rhwng ymerodraethau -
-
ras i goloneiddio, yn enwedig
-
rhwng pwerau mawrion Ewrop,
-
yn enwedig, mae gennych Brydain Fawr - neu'r Deyrnas Unedig -
-
a oedd yn amlwg gyda ymerodraeth fawr.
-
"Dydi'r haul byth yn machlud ar yr Ymerodraeth Brydeinig."
-
Ac nid oedd chwaith yn machlud ar yr ymerodraeth y gwelsom yma.
-
Ac roedd yr Ymerodrath Almaenig hefyd yn dechrau ymestyn a dechrau arfogi.
-
A po fwyaf y gwelai'r Almaenwyr y Prydeinwyr yn arfogi,
-
y mwyaf o awydd fyddai gan yr Almaenwyr i arfogi - ac i'r gwrthwyneb.
-
Ac mi roedd gennych ras arfau.
-
Ac roeddent oll yn ceisio adeiladu ymerodraethau.
-
Felly yr Almaenwyr, roeddent yn bresennol yn Affrica.
-
Roedd gennych Ffrainc a oedd yn bresennol yn y rhan fwyaf o Affrica.
-
Ac mae'n rhaid i chi gofio popeth o fewn ei gyd-destun.
-
Roedd ychydig o'r adeiladu ymerodraethau yma, er mwyn datblygu'r ego i fod yn onest,
-
a dim ond er mwyn ymledu dylanwad rhywun - ymledu pwer [rhywun].
-
Roedd llawer ohono wedi'i seilio ar rhyw fath o gred ethnig am wareiddiad.
-
Mae'n debyg fod rhain yn fodd o resymu [a chyfiawnhau] rheoli adnoddau pobl eraill.
-
Ac roedd llawer ohono yn deillio o'r ffaith - roeddem mewn byd gyda mynediad i adnoddau,
-
yn enwedig mynediad i adnoddau crai - a gall olew yn enwedig -
-
i rai graddau, benderfynnu a oedd pŵer yn bŵer wedi'r cyfan.
-
Ac felly, gyda hynny, dwi'n credu bod gennym sylfaen dda ar gyfer [deall]
-
fel ag yr oedd hi wrth arwain at y Rhyfel Byd Cyntaf.