-
Cyn i ni sôn am y gwrthdaro uniongyrchol
-
yn ystod Rhyfel Corea,
-
beth am geisio dod i ddeall ychydig ar yr hinsawdd hanesyddol
-
a arweiniodd at Ryfel Corea.
-
Felly os ewch chi yr holl ffordd yn nôl
-
i ddiwedd yr 19eg Ganrif [a] dechrau'r 20fed Ganrif,
-
roedd penrhyn Corea,
-
beth a ystyriwn nawr fel Gogledd a De Corea,
-
roeddent o dan reolaeth y fyddin Siapaneaidd.
-
Yna, ym 1910, cafodd penrhyn Corea
-
ei gyfeddiannu yn swyddogol fel rhan o'r Ymerodraeth Siapaneaidd.
-
Felly, y Siapaneaidd mewn ffordd oedd y grym gwladfaol,
-
y pŵer imeprialaidd yma.
-
Ac maent yn parhau i ddal y pwer ym mhenryn Corea
-
hyd nes diwedd yr Ail Ryfel Byd.
-
Ac mae'n debyg ei bod yn werth nodi yma
-
--mae'n debyg ei bod hi'n werth
-
gwneud amryw o fideos yma--
-
fod meddianaeth y Siapaneaid
-
ddim yn feddianaeth bleserus i bobl Corea.
-
Roeddent yn darostwng pobl Corea mewn amryw o ffyrdd:
-
llafur gorfodol; puteindra gorfodol;
-
fe geisiasant, o ryw fath, i gael gwared â'r iaith Coreaidd
-
a diwylliant Coreaidd.
-
Felly nid oedd hon, mewn unrhyw ffordd, yn feddianaeth bleserus.
-
Doedden nhw ddim yn imperialwyr dymunol.
-
Ond rydym yn mynd yr holl ffordd ymlaen i 1945,
-
rydym yn gwybod fod Japan yn colli'r Ail Ryfel Byd.
-
Ac mai'r ddau brif ennillydd ar ochr y Cynghreiriaid
-
-- sydd yn rheoli'r rhan yma o'r byd mewn ffordd --
-
yw'r Unol Daleithiau a'r Undeb Sofietaidd.
-
Ac felly, [ym] 1945,
-
mae'r Sofietiaid yn dod o'r top [y gogledd],
-
dyna'r Sofietiaid, yn dod o'r top.
-
Ac yn y diwedd, mae gennych yr Americanwyr
-
yn dod o'r gwaelod.
-
Maent yn meddiannu Siapan gyntaf. Felly dyma'r UDA.
-
Ac maen nhw mewn ffordd, ydych chi'n cofio, erbyn hyn
-
-- er bod hyn mewn ffordd
-
yn ddechrau'r Rhyfel Oer --
-
erbyn hyn yn yr Ail Ryfel Byd,
-
mae'r Unol Daleithiau a'r Undeb Sofietaidd yn gynghreiriaid.
-
Ac felly, mae'r Unol Daleithiau
-
mewn ffordd yn dweud wrth yr Undeb Sofietaidd,
-
"Hei, pam na wnawn ni jesd stopio ar baralel 38ain?"
-
A doedd yr Unol Daleithiau ddim hyd yn oed yn credu
-
y byddai'r Sofietiaid yn stopio yno.
-
Ond fe wnaethon nhw.
-
Ac o safbwynt y Sofietiaid --
-
-- Credir iddynt stopio yno --
-
oherwydd na wnaeth yr Unol Daleithiau
-
gyrraedd yno yr un pryd.
-
Felly, doedd neb i'w stopio nhw
-
rhag mynd ymhellach i'r de.
-
Ond credir fod y Sofietiaid
-
eisiau cadw eu ochr hwy o'r cytundeb
-
fel y gallent gael --
-
fel y gallent fod yn grŵp yr ymddiriwyd ynddynt
-
yn nhrafodaethau yn Ewrop,
-
ac efallai cael mwy yn Ewrop,
-
sef yr hyn yr oedd y Sofietiaid yn malio mwy amdano o bosib.
-
Felly beth sydd yn digwydd ar ôl yr Ail Ryfel Byd yw bod, y Gogledd
-
-- beth sydd nawr yn Ogledd Corea, i bob pwrpas, --
-
yn dod yn [diriogaeth] o dan ddylanwad y Sofieitiad.
-
Daw popeth o dan baralel 38ain
-
o dan ddylanwad yr Unol Daleithiau.
-
Fe wnaeth y Sofietiaid, i bob pwrpas,
-
osod y gŵr yma yn fan hyn
-
i arwain Gogledd Corea, Kim Il Sung,
-
neu y rhan o Corea sydd i'r gogledd o baralel 38ain.
-
Erbyn hyn, roedd hwn yn cael ei ystyried fel rhyw bwynt
-
ble dyliai'r Sofietiaid a'r Unol Daleithiau
-
gyfarfod mewn ffordd, ble y byddai'n rhaid iddynt stopio.
-
Doedd e ddim i fod yn
-
wir ranniad ar gyfer y wlad.
-
(Ond fel y gwelwn,
-
fe ddaw yn ranniad ar gyfer y wlad.)
-
Ond gosododd y Sofietiaid Kim Il Sung.
-
Sefydlodd ef, mewn ffordd, unbennaeth gomiwnyddol,
-
yn y gogledd, a dyma dad arweinydd cyfredol
-
Gogledd Corea. Dyma dad Kim Jong Il.
-
Felly cafodd ef ei osod yn y gogledd.
-
Ac yn y de,
-
os awn ni ymlaen ychydig i 1948,
-
mae yna ymgais i gael etholiadau,
-
ond mae'r etholiadau yn llwyr anonest,
-
a daw'r gwr hwn, Syngmyn Rhee, i bŵer.
-
Ac er ei fod efallai'n edrych
-
fel dyn clên, dymunol,
-
roedd mewn gwirionedd yn eithaf didrugaredd,
-
ac mae'n cael ei ystyried gan bob ochr yn othrymwr.
-
Ac ar ddwy ochr hyn, mae hyn, unwaith eto,
-
mae hyn yn un o'r sefyllfaoedd hynny ble
-
na ellir galw un o'r gwŷr hyn yn wŷr da,
-
oherwydd mae'r ddau ohonynt...wedi gwneud
-
pethau digon milain i'w gilydd,
-
i filwyr y ddwy ochr, ac i sifiliaid diniwed.
-
Ond daw Syngmyn Rhee i bŵer yn y de,
-
ac ei nodwedd fwyaf atynnol, dybiwn i,
-
i'r Americanwyr, yw nad yw ef yn gomiwnydd.
-
Ac felly mae gennych y sefyllfa yma'n dechrau:
-
Gogledd Comiwnyddol, uwchben paralel 38ain;
-
De nad ydyw'n gomiwnyddol, wedi'i reoli gan Syngmyn Rhee,
-
ac yn cael ei gefnogi gan yr Unol Daleithiau.
-
Y peth arall sy'n digwydd yw fod
-
y Sofietiaid yn helpu
-
adeiladu byddin Gogledd Corea,
-
Dydi'r Unol Daleithiau ddim mor gefnogol o
-
fyddin gref gan Dde Corea.
-
Felly mae gennych y diffyg balans yma
-
rhwng byddinoedd y gogledd a'r de.
-
Ac yn amlwg, roedd y ddau gamp yma --
-
Mae Kim Il Sung eisiau uno Gogledd Corea o dan ei reolaeth
-
o dan ei reolaeth gomiwnyddol.
-
Mae Syngmyn Rhee eisiau uno Corea
-
o dan ei reolaeth unbeniaethol.
-
Felly mae'r ddau mewn ffordd yn
-
gosod milwyr ar hyd y ffin.
-
A drwy gydol hyn i gyd, mae ysgarmesoedd
-
yn cymryd lle ar draws y ffin.
-
A dim ond i roi cefndir,
-
rydych chi yn debyg o fod yn dweud, "Aros,
-
mae Corea, ti'n gwybod, reit drws nesaf i Tsieina,
-
beth oedd yn digwydd yn fanno?"
-
A petaech chi'n mynd i Tsieina ym 1949,
-
daeth y Comiwnyddion i bŵer
-
roedd rhyfel cartref a arweiniodd at hynny,
-
rhwng y Comiwnyddion wedi'u harwain gan Mao Zedong
-
a'r Cenedlaetholwyr o dan arweiniad Chang Kai Shek
-
Daw Mao Zedong i bwer.
-
Mae o eisiau cefnogi'r comiwnyddion yng Ngogledd Corea,
-
yn enwedig oherwydd i rai o'r
-
comiwnyddion yng Ngogledd Corea helpu i ymladd
-
ar ochr y comiwnyddion yn ystod y rhyfel cartref Tsieiniaidd.
-
Felly mae hyn yn ffactor bwysig yma.
-
Mae gan Mao Zedong syniadau i ledaenu Comiwnyddiaeth.
-
Dydi o ddim yn hoffi'r Americanwyr yn Ne Corea.
-
Ac mae'n teimlo math o deyrngarwch
-
i'r comiwnyddion yng Ngogledd Corea.
-
Felly rydym ni nawr yn symud ymlaen i Fehefin 25, 1950.
-
Ac yn y gogledd, mae gennych chi... ---
-
Mae yna lawer o... y Gogledd...
-
Byddin Gogledd Corea -- Ac nid yw'n cael ei alw'n
-
Ogledd Corea ar y pwynt hwn.
-
Mae'r ddau yn ystyried eu hunain fel Corea --
-
cystadleuaeth rhwng lywodraethau Corea, dybiwn i.
-
Mae'r fyddin yn y Gogledd yn anghyfartal a chryfach o'i gymharu
-
â'r [fyddin yn] y de.
-
Ac felly maent yn ymosod.
-
Maent yn gweld hyn fel eu cyfle
-
i uno y penrhyn.
-
A mewn ffordd, maent yn gallu bron â
-
rhuthro drwy benrhyn Corea.
-
Yn syth pan ddigwydda hynny,
-
mae'r CU ac yn enwedig yr Unol Daleithiau --
-
ac mae hyn oherwydd erbyn hyn,
-
roedd yr Undeb Sofietaidd yn boicotio y Cyngor Diogelwch,
-
felly allen nhw ddim hyd yn oed defnyddio eu veto.
-
Dechreuodd y CU, ar eu hunion, roi
-
cymorth llyngesol ac awyr i'r Coreaid yn y De.
-
Ond, mae'r anghyfartalwydd mor fawr fel bod Coreaid y Gogledd
-
yn gallu parhau i orymdeithio ymlaen.
-
O fewn ychydig dyddiau, yn llythrennol erbyn Gorffennaf 1af,
-
mae'r UDA yn dewis anfon lluoedd ar y ddaear --
-
Oherwydd roedd gennym nifer o luoedd ar y ddaear yn Japan,
-
sydd ddim yn bell iawn i ffwrdd.
-
Dim ond i roi persbectif global,
-
dyma benrhyn Corea, fan hyn;
-
a dyma Japan. Dwi'n gwybod y gallwn i fod wedi
-
dod o hyd i lun mwy na hynny,
-
ond roedd gan yr Americanwyr luoedd y fyddin yn Japan
-
y gallent eu hanfon, ac felly,
-
ac mae'r Americanwyr yn anfon y lluoedd...
-
yn mynd i mewn i'r frwydr mewn dull eithaf difrifol yn fuan iawn,
-
ond dydi hynny ddim yn stopio Coreaid y Gogledd am gryn amser
-
Felly daeth Coreaid y Gogledd yr holl fordd...maent yn gallu
-
meiddianu holl benrhyn Corea heblaw am
-
y gornel yn y Gogledd Ddwyrain.
-
Maent yn mynd rownd mor bell â hyn. Felly fan hyn mae gennych chi
-
ddinas Pussan
-
a gelwir hwn yn berimedr Pussan
-
Ac ar y perimedr Pussan y
-
cewch chi ychydig o...
-
Mae'r Unol Daleithiau a phwerau Corea gyda'i gilydd
-
yn gallu dod a Choreaid y Gogledd i stop,
-
ac mae gennych chi rhyw fath o sefyllfa ddiddatrys
-
am gwpl o fisoedd fan hyn,
-
ond tra mae'r sefyllfa ddiddatrys yma'n parhau,
-
mae'r Unol Daleithiau yn llwyddo i...
-
ac yn enwedig y CU, ond yn bennaf yr Unol Daleithiau
-
creu garfan gref o dilwyr
-
o fewn y perimedr Pussan, ond hyd yn oed fwy,
-
ar y pwynt yma, mae milwyr yr Unol Daleithiau neu ..a'r CU
-
yn dod o dan reolaeth Douglas MacArthur,
-
Cadfridog Douglas MacArthur,
-
sydd yn gymeriad digon diddorol.
-
Tan y pwynt hwn,
-
roedd yn gallu rheoli Japan i raddau gyda dwrn dur.
-
Mae'n arwr rhyfel poblogaidd iawn yn America.
-
A cafodd yr Arlywydd cyfredol, Truman,
-
rhyw fath, rhyw fymryn o drwbl yn rheoli MacArthur
-
yn enwedig yn ystod RHyfel Corea.
-
Cawn weld i MacArthur wir gamu tu hwnt i'w bwerau
-
yn ystod y rhyfel.
-
Nawr ar y pwynt yma,
-
mae gennych chi y De Coreaid a'r Americanwyr
-
yn poeni mewn ffordd lawr fanna
-
o fewn perimedr Pussan.
-
Mae'n edrych fel bod Gogledd Corea ar fin cael buddugoliaeth,
-
ond mae'r UD yn llwyddo i adeiladu byddinoedd.
-
Ac mae Rhyfel Corea wir yn dechrau
-
dod yn gem o RIsk.
-
Dwi ddim yn siwr os ydych chi erioed wedi chwarae Risk
-
ond pan fo hi'n dro rhywun,
-
maent yn gallu ehangu eu byddinoedd
-
ond yna maent yn cael eu gwasgu i mewn.
-
A gall yr ochr arall dodd yn nol.
-
Cawn weld fod gweddill Rhyfel Corea
-
mewn ffordd yn frwydr nol ag ymlaen
-
rhwng y Comiwnyddion yn y Gogledd,
-
wedi eu cefnogi gan y Tsieiniaid
-
er nad ydyw'r Tsieiniaid yn y rhyfel yn swyddogol eto;
-
ac yna yr Americanwyr yn y de,
-
A'r peth clyfar cyntaf wnaeth MacArthur oedd
-
iddo ddweud, "Ylwch
-
yn lle ceisio ymladd ein ffordd drwy
-
fyddinoedd Corea sydd gennym ni fama,
-
yn lle ymladd drwyddyn nhw,
-
yr holl fyddinoedd Corea sydd yma,
-
pam na wnawn ni eu outflaknio?
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
Felly mae gennych chi'r frwydr hynod waedlyd
-
-- rhyfel hynod waedlyd, ddylwn i ei ddwedu --
-
sydd wir yn diweddu gyda chanlyniad
-
nad oedd yn bur whahanol o ble y dechreuodd.