[cymeradwyo]
Diolch.
[cymeradwyo]
Diolch.
[cymeradwyo]
Diolch yn fawr i chi.
[cymeradwyo]
Diolch.
[cymeradwyo]
I Graça Machel a theulu Mandela;
I'r Arlywydd Zuma ac aelodau y llywodraeth;
i benaethiaid taleithiau a llywodraethau
-- yn y gorffennol a'r presennol --
gwesteion nodedig.
Mae hi'n fraint unigol i mi fod gyda chi heddiw
i ddathlu bywyd fel neb arall
I bobl De Affrica
[cymeradwyo]
Pobl o bob tras a phob cherddediad mewn bywyd
mae'r byd yn diolch i chi
am rannu Nelson Mandela gyda ni
Ei frwydr oedd eich brwydr
ei lwyddiant oedd eich llwyddiant,
fe gafodd eich urddas a'ch gobaith
ei fynegi drwy ei fywyd a thrwy eich ryddid
Eich democratiaeth
yw ei rodd annwyl i chi
Mae hi'n anodd canu clodydd i unrhyw ddyn
i gyflwyno mewn geiriau
nid dim ond y ffeithiau a'r dyddiadau sy'n ffurfio bywyd
ond y gwir wrth hanfod person
y llawenydd preifat a'r galaru
y momentau distaw a nodweddion unigryw
sydd yn goleuo enaid rhywun
Anoddach o'r hanner yw gwneud hynny i gawr yn hanes
a symudodd gwlad tuag at gyfiawnder
a thrwy'r broses symud biliynau o amgylch y byd
Wedi'i eni yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf
wedi ennyn diddordeb drwy orchymynnion o bŵer
bachgen a'i fagwyd yn bugeilio gwartheg
a'i ddysgu gan yr hynaf o blith ei lwyth y Mambu
Roedd Madiba i dyfu
i fod yn waredwr mawr olaf yr 20fed Ganrif.
Fel Gandhi, roedd i arwain mudiad o wrthwynebiad
mudiad
a oedd ar y dechrau heb prin unrhyw obaith o lwyddo
Fel Dr. King, roedd i roi llais pwerus
i hawliau'r gorthrwm rai
a'r anghenrhaid moesol i gael tegwch hiliol
Roedd i ddioddef carchariad caled
a ddechreuodd yng nghyfnod Kennedy a Khrushchev
ac a ymestynnodd i ddyddiau olaf y Rhyfel Oer
Wrth gerdded o'r carchar heb fyddin arfog
byddai -- fel Abraham Lincoln --
yn dal y wlad gyda'i gilydd
pan oedd yn bygwth torri'n ddarnau
ac fel sylfaenwyr America byddai'n sefydlu
trefn gyfansoddiadol
i sicrhau rhyddid i genedlaethau i ddod
Ymrwymiad i ddemocratiaeth a rheolaeth y gyfraith
a gafodd ei gadarnhau nid yn unig gan ei etholiad
ond drwy ei barodrwydd i adael y swyddfa ar ôl dim ond un tymor
O ystyried llwybr ei fywyd
amrediad ei lwyddiannau
yr addoliad a oedd mor haeddiannol ohono
mae'n demtasiwn -- dwi'n credu --
i gofio Nelson Mandela fel eicon
yn gwenu ac yn ddigynnwrf
wedi'i ddatgysylltu o faterion coegwych y bobl lai
ond gwthwynebodd Madiba ei hun
ddelwedd mor ddi-fywyd
[cymeradwyo]
Yn hytrach,
Mynnodd Madiba rannu gyda ni
ei amheuon a'i ofnau
ei gamgymeriadau ynghyd â'i lwyddiannau
"Dydw i ddim yn sant", dywedodd
"os nac ydych yn ystyried sant
fel pechadur sy'n dal i drio."
Oherwydd ei fod yn gallu cydnabod ei amherffeithrwydd
oherwydd ei fod yn gallu bod â chymaint o hiwmor
hyd yn oed yn ddrygiog,
er gwaethaf y beichiau trwm a'i cariodd
yr oeddem yn ei garu cymaint.
Nid oedd yn benddelw wedi'i wneud o farmor,
roedd yn ddyn o gig a gwaed
yn fab ac yn ŵr
yn dad ac yn ffrind
a dyna pam ein bod wedi dysgu cymaint oddi wrtho
a dyna pam y gallwn ddal i ddysgu oddi wrtho
Oherwydd nid oedd unrhywbeth a gyflawnodd yn anochel
yn llwybr ei fywyd gwelwn ddyn
a enillodd ei le yn y llyfrau hanes drwy ymaflyd
a chraffter a dyfalbarhad a ffydd
Mae'n dweud wrthym beth sydd yn bosib
nid yn unig yn nhudalennau ein llyfrau hanes
ond yn ein bywydau ni hefyd
Dangosodd Mandela i ni nerth gweithredu
o gymryd risgiau ar ran ein syniadau
Efallai fod Mandela yn iawn
ei fod wedi "etifeddu gwrthryfelgarwch balch,
synnwyr ystyfnig o degwch"; gan ei dad
ac rydym yn gwybod iddo rannu gyda miliynau o Dde-Affricanwyr du a thywyll eu croen;
"y dicter a anwyd gan fil camwedd
mil amharch
mil o fomentau na chafwyd eu cofio
yr awydd i frwydro'r system a garcharodd
fy mhobl", ddywedodd o
Ond fel cewri eraill cynnar yr ANC
y Zulus a'r Tambos,
[cymeradwyo]
Fe ddisgyblodd Madiba ei ddicter
a sianelu ei awydd i frwydro i sefydliadau
a phlatfformau a strategaethau ar gyfer gweithredu
fel y gallai dynion a merched sefyll
dros yr urddas a gawn gan Dduw
Yn fwy na hyn, derbyniodd ganlyniadau ei weithredoedd
gwybod bod sefyll i fyny yng ngwyneb buddiannau pwerus ac anghyfiawnder gyda phris
"Rydw i wedi ymladd yn erbyn dominyddiaeth y gwyn
Rydw i wedi ymladd yn erbyn dominyddiaeth y du."
[cymeradwyo]
"Rydw i wedi gofalu'n dyner am y ddelfryd o ddemocratiaeth a chymdeithas rydd
ble gall pawb fyw efo'i gilydd mewn harmoni a chyfleodd cyfartal
mae'n ddelfryd yr ydw i'n gobeithio byw i'w chyrchu ac i'w chyrraedd
ond os daw i hynny mae hi'n ddelfryd
yr ydw i'n barod i farw drosti."
[cymeradwyo]
Dysgodd Mandela i ni rym gweithredu
ond dysgodd i ni hefyd rym syniadau
pwysigrwydd rhesymu a dadlau
yr angen i astudio nid yn unig yr rhai yr ydych yn cytuno â hwy
ond hefyd y rhai nad ydych yn cytuno â hwy
Deallai na allai syniadau gael eu dal gan furiau carchar
na'u diffodd gan fwled saethwr cudd
Trödd ei achos llys yn gyhuddiad o apartheid
oherwydd ei huodledd a'i angerdd
ond hefyd oherwydd ei hyfforddiant fel hyrwyddwr
Defnyddiodd ddegawdau o garchar i finiogi ei ddadleuon
ond hefyd i ymledu ei syched am wybodaeth
i eraill yn y mudiad
a dysgodd iaith
ac arferion ei orthrymwyr
fel y gallai un diwrnod fynegi iddynt hwy
sut oedd eu rhyddid hwy yn ddibynnol ar ei ryddid o
[cymeradwyo]
Dangosodd Mandela nad yw gweithredu a syniadau yn ddigon
dim ots pa mor gywir
mae'n rhaid iddynt hefyd gael ei naddu yn y cyfreithiau a'r sefydliadau
Roedd yn ymarferol, yn ceisio ei gredoau
yn erbyn arwyneb caled amgylchiad a hanes
Wrth ei brif egwyddorion, safai fel y graig
a dyna pam y gallai wrthod eraill rhag cael eu rhyddhau'n ddiamod
gan atgoffa'r gyfundrefn apartheid
na allai "carcharorwyr ymuno â chytundeb";
Ond fel y dangosodd drwy drafodaethau caled
i drosglwyddo pŵer a llunio deddfau newydd
Nid oedd arno ofn cyfaddawdu er mwyn cyrraedd nod uwch
Ac oherwydd nad oedd ddim ond yn arweinydd mudiad ond yn wleidydd galluog
roedd y cyfansoddiad a ddilynnodd yn deilwng o'r ddemocratiaeth aml-hiliol hon
yn driw i'w weledigaeth i amddiffyn y lleiafrifoedd
ynghyd â hawliau y mwyafrif
a rhyddid gwerthfawr pob un yn Ne Affrica
Ac yn olaf deallodd Mandela
y clymau sydd yn rhwymo'r enaid ddynol
Mae yna air Ne Affrica,
Ubuntu
[cymeradwyo]
Gair sydd yn darlunio rhodd fwyaf Mandela
ei ymwybyddiaeth ein bod oll wedi ein rhwymo gyda'n gilydd mewn ffyrdd
sydd yn ddiethr i'r llygad
fod ymdeimlad o un yn perthyn i ddynoliaeth
ein bod yn llwyddo ein hunain
drwy rannu ein hunain gyda eraill
a gofalu am y rhai o'n hamylch
Ni wyddwn fyth faint o'r synnwyr hwn oedd yn rhan gynhenid ohono
neu faint gafodd ei fagu mewn cell unig a thywyll
Ond rydym yn cofio'r arwyddion -- yn fawr a'n fach --
yn cyflwyno ei garcharwyr fel ymwelwyr anrhydeddus mewn urddfreiniad
cymryd cic mewn gwisg springbox;
troi galar ei deulu yn alwad i wynebu HIV-AIDS
sy'n dangos dyfnder ei empathi a'i ddealltwriaeth
Nid yn unig iddo ymgorffori ubuntu, dysgodd filiynnau
i ganfod y gwirionedd ynddynt eu hunain
Cymerodd ddyn fel Madiba i ryddhau
nid yn unig carcharor ond y carcharwr hefyd
[cymeradwyo]
i ddangos bod rhaid i chi ymddiried
yn eraill iddynt hwy ymddiried ynoch chi
i ddysgu bod cymodi ddim yn fater o anwybyddu'r gorffennol creulon
ond modd o ddod yn wyneb ag ef gyda chynhwysiad a haelioni a gwirionedd
Newidiodd gyfreithiau
ond hefyd fe newidiodd galonnau
Ar gyfer pobl De Affrica
ar gyfer y rhai a ysbrydolodd o amgylch y byd
mae marwolaeth Madiba yn gyfnod o alaru
ac yn amser i ddathlu ei fywyd arwrol
Ond credaf y dylai hefyd ein hysgogi ynom ni oll
gyfnod i adlewyrchu arnom ein hunain gyda gonestrwydd
beth bynnag yw ein gorsaf neu'n sefyllfa
rhaid i ni holi: "Pa mor dda ydw i wedi gweithredu
ei wers o yn fy mywyd fy hun?";
Mae'n gwestiwn yr wyf yn gofyn i mi fy hun
fel dyn ac fel arlywydd
Gwyddom fod De Affrica wyn,
yr Unol Daleithiau wedi goresgyn canrifoedd o ddarostyngiad hiliol
Fel yr oedd yn wir yma, roedd angen aberth
aberth nifer anrhifadwy o bobl
-- yn wybyddus ac yn anwybyddus --
i weld yn gwawrio ddiwrnod newydd
Mae Michelle a minnau yn fuddiolwyr o'r frwydr honno
[cymeradwyo]
Ond yn America ac yn Ne Affrica
ac yng ngwledydd ar draws y byd
ni allwn adael i gynnydd gelu'r ffaith
fod ein gwaith ddim eto ar ben
Efallai nad yw'r brwydrau sy'n dilyn llwyddiannau cyrraedd cydraddoldeb ffurfiol
neu gydnabod hawliau dyniol wedi eu llenwi gyda chymaint o ddrama a chlirder moesol
â'r rhai a ddaeth o'u blaennau
ond nid ydynt yn llai pwysig
Oherwydd o amgylch y byd heddiw
rydym yn dal i weld plant yn dioddef o newyn ac afiechyd
rydym yn dal i weld ysgolion di-raen
rydym yn dal i weld pobl ifanc heb gyfleodd ar gyfer y dyfodol
O amgylch y byd heddiw
mae dynion a merched yn dal i gael eu carcharu oherwydd eu daliadau gwleidyddol
ac yn dal i gael eu herlyn am eu golwg
sut maent yn addoli, a phwy maent yn eu caru
ac mae hynny'n digwydd heddiw
[cymeradwyo]
Ac felly mae'n rhaid i ninnau hefyd frwydro am gyfiawnder
Mae'n rhaid i ninnau hefyd frwydro am heddwch
Mae yna ormod o bobl sydd yn derbyn yn hapus
rhodd werthfawr Madiba sef cymodi hiliol
ond yn dal i wrthod yn gryf unrhyw ddiwygiadau pitw
a fyddai'n herio eiddo cronig ac anghydraddoldeb cynyddol
Mae yna ormod o arweinwyr sy'n honni undod
gyda brwydr Madiba am ryddid
ond sydd ddim yn goddef unrhywun ond eu pobl eu hunain
[cymeradwyo]
Ac mae yna ormod ohonom
gormod ohonom ar yr ymylon
yn gartrefol yn ein hunanfoddhad neu'n sinigiaeth
pan mae angen i'n lleisiau gael eu clywed
Mae'r cwestiynau yr ydym yn eu hwynebu heddiw
sut i annog cydraddoldeb a chyfiawnder;
sut i warchod rhyddid a hawliau dynol;
sut i ddiweddu cyflafan a rhyfel sectyddol
does dim atebion hawdd i'r cwestiynau hyn
Ond nid oedd atebion hawdd
o flaen y plentyn hwnnw a anwyd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf
Mae Nelson Mandela yn ein hatgoffa ei bod
hi wastad yn ymddangos yn amhosib nes y caiff ei gyflawni
Mae De Affrica yn dangos bod hynny'n wir
Mae De Affrica yn dangos y gallwn newid
y gallwn ddewis byd sydd ddim wedi'i ddiffinio gan ein gwahaniaethau
ond gan y gobeithion sydd gennym yn gyffredin
gallwn ddewis byd sydd heb ei ddifinio gan gyflafan
ond gan heddwch a chyfiawnder a chyfleoedd
[cymeradwyo]
Welwn ni fyth
yr un fath â Nelson Mandela eto
Ond gadewch i mi ddweud [wrth] bobl ifanc Affrica
a phobl ifanc ar draws y byd
y gallwch chi, hefyd, wneud gwaith ei fywyd o yn waith eich bywyd chithau
Dros dri deg mlynedd yn ôl, tra'n dal yn fyfyriwr
dysgais am Nelson Mandela
a'r brwydrau oedd i'w gweld yn y wlad brydferth hon
ac fe gynhyrfodd rywbeth ynof
fe wnaeth fy neffro i'm cyfrifoldebau
-- i eraill a mi fy hun --
ac fy ngosod ar lwybr annhebygol
sydd wedi arwain at fan hyn heddiw
ac er y syrthiaf yn fyr o esiampl Madiba o hyd
mae'n fy ngwneud i eisiau bod yn well dyn
[cymeradwyo]
Mae'n siarad
gyda beth sydd orau ynom ni
Ar ôl i'r gwaredwr mawr hwn gael ei roi i orffwys
a phan fyddwn yn dychwelyd i'n dinasoedd a'n pentrefi
ac ymuno unwaith eto â'n trefn ddyddiol
gadewch i ni chwilio am ei gryfder o
gadewch i ni chwilio am fawr ei ysbryd
rhywle ynom ni'n hunain
a phan fo'r nos yn cau
pan fo anghyfiawnder yn pwyso'n drwm ar ein calonnau
pan fo ein cynlluniau mwyaf trwyadl yn ymddangos tu hwnt i'n gafael
gadewch i ni feddwl am Madiba
a'r geiriau a ddaeth â chysur iddo ef
o fewn pedwar mur ei gell:
"Nid oes ots pa mor gul yw'r adwy,
mor drwm yw'r cosbau ar y sgrôl
Myfi yw meistr fy ffawd fy hun,
Myfi yw capten fy enaid i."
Yn doedd yr enaid yn ysblennydd?
Byddwn yn ei golli'n fawr
Bendith Duw fo ar yr atgof o Nelson Mandela
Bendith Duw fo ar bobl De Affrica
[cymeradwyo]