WordPress 4.3 [JAZZ]
ar ôl arwr o fyd jazz [JAZZER]
bydd eich llif gwaith yn gynt,
gwefan haws i'w gyfaddasu
a'ch cyfrinair yn gryfach.
Dyma olwg ar sut mae
mae WordPress 4.3 yn cynorthwyo
un perchennog busnes bach
Dyma Kate,
a dyma wefan caffi Kate:
Schroedinger's Cup.
Mae Kate am ddarparu bwydlen
dyddiol i'w chwsmeriaid
i'w hysbysu ar beth
yw ei harlwy bob dydd.
Bore 'ma mae hynny am ddigwydd
o fewn WordPress
Bydd bwydlen dyddiol Kate
yn hysbysu cwsmeriaid
beth mae hi'n ei baratoi a
beth sydd i ginio heddiw.
Mae hi eisiau gwneud e'n
glir
i'w chwsmeriaid weld yn sydyn
beth sydd ar gael.
O fewn WordPress 4.3 gall newid
golwg y testun heb glicio
Mae llwybrau byr fformatio'n caniatáu
creu rhestrau, penawdau a dyfyniadau
heb dorri ar ei llif meddwl.
Mae hynny'n cadw'r dasg o gyhoeddi'r
fwydlen dyddiol yn hawdd,
a'i rhyddhau i'r gwaith go iawn
o wneud coffi.
Mae'n amser i Kate ychwanegu tudalen
i'r dudalen llywio ar ei bar ochr.
Does dim angen mynd i'r
gweinyddu i wneud hyn,
Yn WordPress 4.3 gall Kate ychwanegu
eitem dewislen o'r cyfaddaswr,
lle gall weld y newidiadau i'w gwefan
yn fyw cyn eu cyhoeddi
Dim ond clicio "cyfaddasu",
a"dewislenni", ac ychwanegu tudalen
i ddewislen y bar ochr.
Mae hynny'n hawdd.
Mae ei chwsmeriaid yn gwybod
beth sydd ar gael.
Mae yna declyn arall yn y cyfaddaswr.
Mae Kate yn gallu gosod eicon gwefan
fel bod y logo i'w weld mewn tabiau porwr
a dewislenni nodau tudalen.
Gall ei chwsmeriaid greu llwybr byr
ar dudalen cartref eu dyfais symudol.
Nawr, mae bwydlen Kate wrth law,
pryd bynnag mae ei hangen.
Nid rheini yw'r unig newidiadau i
WordPress 4.3.
Pan fydd Kate yn ychwanegu staff
i'w gwefan, bydd WordPress yn
cynhyrchu cyfrinair cryf ar eu cyfer.
Os yw'r aelod hwnnw o staff yn newid y cyfrinair
bydd WordPress yn dweud wrthynt
os yw eu cyfrinair'n gryf.
Dyna'r cyfan gan WordPress,
Mae gan Kate fusnes i'w redeg.
Ond mae'n hapus gyda phob diweddariad
Mae WordPress yn para i wella.
Mae hi'n cadw'i chwsmeriaid yn hapus,
gan roi'r wybodaeth mae nhw angen.
ar flaenau eu bysedd
WordPress 4.3 [JAZZ]
Cymysgedd mwy coeth.