[cymeradwyo] Diolch. [cymeradwyo] Diolch. [cymeradwyo] Diolch yn fawr i chi. [cymeradwyo] Diolch. [cymeradwyo] I Graça Machel a theulu Mandela; I'r Arlywydd Zuma ac aelodau y llywodraeth; i benaethiaid taleithiau a llywodraethau -- yn y gorffennol a'r presennol -- gwesteion nodedig. Mae hi'n fraint unigol i mi fod gyda chi heddiw i ddathlu bywyd fel neb arall I bobl De Affrica [cymeradwyo] Pobl o bob tras a phob cherddediad mewn bywyd mae'r byd yn diolch i chi am rannu Nelson Mandela gyda ni Ei frwydr oedd eich brwydr ei lwyddiant oedd eich llwyddiant, fe gafodd eich urddas a'ch gobaith ei fynegi drwy ei fywyd a thrwy eich ryddid Eich democratiaeth yw ei rodd annwyl i chi Mae hi'n anodd canu clodydd i unrhyw ddyn i gyflwyno mewn geiriau nid dim ond y ffeithiau a'r dyddiadau sy'n ffurfio bywyd ond y gwir wrth hanfod person y llawenydd preifat a'r galaru y momentau distaw a nodweddion unigryw sydd yn goleuo enaid rhywun Anoddach o'r hanner yw gwneud hynny i gawr yn hanes a symudodd gwlad tuag at gyfiawnder a thrwy'r broses symud biliynau o amgylch y byd Wedi'i eni yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf wedi ennyn diddordeb drwy orchymynnion o bŵer bachgen a'i fagwyd yn bugeilio gwartheg a'i ddysgu gan yr hynaf o blith ei lwyth y Mambu Roedd Madiba i dyfu i fod yn waredwr mawr olaf yr 20fed Ganrif. Fel Gandhi, roedd i arwain mudiad o wrthwynebiad mudiad a oedd ar y dechrau heb prin unrhyw obaith o lwyddo Fel Dr. King, roedd i roi llais pwerus i hawliau'r gorthrwm rai a'r anghenrhaid moesol i gael tegwch hiliol Roedd i ddioddef carchariad caled a ddechreuodd yng nghyfnod Kennedy a Khrushchev ac a ymestynnodd i ddyddiau olaf y Rhyfel Oer Wrth gerdded o'r carchar heb fyddin arfog byddai -- fel Abraham Lincoln -- yn dal y wlad gyda'i gilydd pan oedd yn bygwth torri'n ddarnau ac fel sylfaenwyr America byddai'n sefydlu trefn gyfansoddiadol i sicrhau rhyddid i genedlaethau i ddod Ymrwymiad i ddemocratiaeth a rheolaeth y gyfraith a gafodd ei gadarnhau nid yn unig gan ei etholiad ond drwy ei barodrwydd i adael y swyddfa ar ôl dim ond un tymor O ystyried llwybr ei fywyd amrediad ei lwyddiannau yr addoliad a oedd mor haeddiannol ohono mae'n demtasiwn -- dwi'n credu -- i gofio Nelson Mandela fel eicon yn gwenu ac yn ddigynnwrf wedi'i ddatgysylltu o faterion coegwych y bobl lai ond gwthwynebodd Madiba ei hun ddelwedd mor ddi-fywyd [cymeradwyo] Yn hytrach, Mynnodd Madiba rannu gyda ni ei amheuon a'i ofnau ei gamgymeriadau ynghyd â'i lwyddiannau "Dydw i ddim yn sant", dywedodd "os nac ydych yn ystyried sant fel pechadur sy'n dal i drio." Oherwydd ei fod yn gallu cydnabod ei amherffeithrwydd oherwydd ei fod yn gallu bod â chymaint o hiwmor hyd yn oed yn ddrygiog, er gwaethaf y beichiau trwm a'i cariodd yr oeddem yn ei garu cymaint. Nid oedd yn benddelw wedi'i wneud o farmor, roedd yn ddyn o gig a gwaed yn fab ac yn ŵr yn dad ac yn ffrind a dyna pam ein bod wedi dysgu cymaint oddi wrtho a dyna pam y gallwn ddal i ddysgu oddi wrtho Oherwydd nid oedd unrhywbeth a gyflawnodd yn anochel yn llwybr ei fywyd gwelwn ddyn a enillodd ei le yn y llyfrau hanes drwy ymaflyd a chraffter a dyfalbarhad a ffydd Mae'n dweud wrthym beth sydd yn bosib nid yn unig yn nhudalennau ein llyfrau hanes ond yn ein bywydau ni hefyd Dangosodd Mandela i ni nerth gweithredu o gymryd risgiau ar ran ein syniadau Efallai fod Mandela yn iawn ei fod wedi "etifeddu gwrthryfelgarwch balch, synnwyr ystyfnig o degwch"; gan ei dad ac rydym yn gwybod iddo rannu gyda miliynau o Dde-Affricanwyr du a thywyll eu croen; "y dicter a anwyd gan fil camwedd mil amharch mil o fomentau na chafwyd eu cofio yr awydd i frwydro'r system a garcharodd fy mhobl", ddywedodd o Ond fel cewri eraill cynnar yr ANC y Zulus a'r Tambos, [cymeradwyo] Fe ddisgyblodd Madiba ei ddicter a sianelu ei awydd i frwydro i sefydliadau a phlatfformau a strategaethau ar gyfer gweithredu fel y gallai dynion a merched sefyll dros yr urddas a gawn gan Dduw Yn fwy na hyn, derbyniodd ganlyniadau ei weithredoedd gwybod bod sefyll i fyny yng ngwyneb buddiannau pwerus ac anghyfiawnder gyda phris "Rydw i wedi ymladd yn erbyn dominyddiaeth y gwyn Rydw i wedi ymladd yn erbyn dominyddiaeth y du." [cymeradwyo] "Rydw i wedi gofalu'n dyner am y ddelfryd o ddemocratiaeth a chymdeithas rydd ble gall pawb fyw efo'i gilydd mewn harmoni a chyfleodd cyfartal mae'n ddelfryd yr ydw i'n gobeithio byw i'w chyrchu ac i'w chyrraedd ond os daw i hynny mae hi'n ddelfryd yr ydw i'n barod i farw drosti." [cymeradwyo] Dysgodd Mandela i ni rym gweithredu ond dysgodd i ni hefyd rym syniadau pwysigrwydd rhesymu a dadlau yr angen i astudio nid yn unig yr rhai yr ydych yn cytuno â hwy ond hefyd y rhai nad ydych yn cytuno â hwy Deallai na allai syniadau gael eu dal gan furiau carchar na'u diffodd gan fwled saethwr cudd Trödd ei achos llys yn gyhuddiad o apartheid oherwydd ei huodledd a'i angerdd ond hefyd oherwydd ei hyfforddiant fel hyrwyddwr Defnyddiodd ddegawdau o garchar i finiogi ei ddadleuon ond hefyd i ymledu ei syched am wybodaeth i eraill yn y mudiad a dysgodd iaith ac arferion ei orthrymwyr fel y gallai un diwrnod fynegi iddynt hwy sut oedd eu rhyddid hwy yn ddibynnol ar ei ryddid o [cymeradwyo] Dangosodd Mandela nad yw gweithredu a syniadau yn ddigon dim ots pa mor gywir mae'n rhaid iddynt hefyd gael ei naddu yn y cyfreithiau a'r sefydliadau Roedd yn ymarferol, yn ceisio ei gredoau yn erbyn arwyneb caled amgylchiad a hanes Wrth ei brif egwyddorion, safai fel y graig a dyna pam y gallai wrthod eraill rhag cael eu rhyddhau'n ddiamod gan atgoffa'r gyfundrefn apartheid na allai "carcharorwyr ymuno â chytundeb"; Ond fel y dangosodd drwy drafodaethau caled i drosglwyddo pŵer a llunio deddfau newydd Nid oedd arno ofn cyfaddawdu er mwyn cyrraedd nod uwch Ac oherwydd nad oedd ddim ond yn arweinydd mudiad ond yn wleidydd galluog roedd y cyfansoddiad a ddilynnodd yn deilwng o'r ddemocratiaeth aml-hiliol hon yn driw i'w weledigaeth i amddiffyn y lleiafrifoedd ynghyd â hawliau y mwyafrif a rhyddid gwerthfawr pob un yn Ne Affrica Ac yn olaf deallodd Mandela y clymau sydd yn rhwymo'r enaid ddynol Mae yna air Ne Affrica, Ubuntu [cymeradwyo] Gair sydd yn darlunio rhodd fwyaf Mandela ei ymwybyddiaeth ein bod oll wedi ein rhwymo gyda'n gilydd mewn ffyrdd sydd yn ddiethr i'r llygad fod ymdeimlad o un yn perthyn i ddynoliaeth ein bod yn llwyddo ein hunain drwy rannu ein hunain gyda eraill a gofalu am y rhai o'n hamylch Ni wyddwn fyth faint o'r synnwyr hwn oedd yn rhan gynhenid ohono neu faint gafodd ei fagu mewn cell unig a thywyll Ond rydym yn cofio'r arwyddion -- yn fawr a'n fach -- yn cyflwyno ei garcharwyr fel ymwelwyr anrhydeddus mewn urddfreiniad cymryd cic mewn gwisg springbox; troi galar ei deulu yn alwad i wynebu HIV-AIDS sy'n dangos dyfnder ei empathi a'i ddealltwriaeth Nid yn unig iddo ymgorffori ubuntu, dysgodd filiynnau i ganfod y gwirionedd ynddynt eu hunain Cymerodd ddyn fel Madiba i ryddhau nid yn unig carcharor ond y carcharwr hefyd [cymeradwyo] i ddangos bod rhaid i chi ymddiried yn eraill iddynt hwy ymddiried ynoch chi i ddysgu bod cymodi ddim yn fater o anwybyddu'r gorffennol creulon ond modd o ddod yn wyneb ag ef gyda chynhwysiad a haelioni a gwirionedd Newidiodd gyfreithiau ond hefyd fe newidiodd galonnau Ar gyfer pobl De Affrica ar gyfer y rhai a ysbrydolodd o amgylch y byd mae marwolaeth Madiba yn gyfnod o alaru ac yn amser i ddathlu ei fywyd arwrol Ond credaf y dylai hefyd ein hysgogi ynom ni oll gyfnod i adlewyrchu arnom ein hunain gyda gonestrwydd beth bynnag yw ein gorsaf neu'n sefyllfa rhaid i ni holi: "Pa mor dda ydw i wedi gweithredu ei wers o yn fy mywyd fy hun?"; Mae'n gwestiwn yr wyf yn gofyn i mi fy hun fel dyn ac fel arlywydd Gwyddom fod De Affrica wyn, yr Unol Daleithiau wedi goresgyn canrifoedd o ddarostyngiad hiliol Fel yr oedd yn wir yma, roedd angen aberth aberth nifer anrhifadwy o bobl -- yn wybyddus ac yn anwybyddus -- i weld yn gwawrio ddiwrnod newydd Mae Michelle a minnau yn fuddiolwyr o'r frwydr honno [cymeradwyo] Ond yn America ac yn Ne Affrica ac yng ngwledydd ar draws y byd ni allwn adael i gynnydd gelu'r ffaith fod ein gwaith ddim eto ar ben Efallai nad yw'r brwydrau sy'n dilyn llwyddiannau cyrraedd cydraddoldeb ffurfiol neu gydnabod hawliau dyniol wedi eu llenwi gyda chymaint o ddrama a chlirder moesol â'r rhai a ddaeth o'u blaennau ond nid ydynt yn llai pwysig Oherwydd o amgylch y byd heddiw rydym yn dal i weld plant yn dioddef o newyn ac afiechyd rydym yn dal i weld ysgolion di-raen rydym yn dal i weld pobl ifanc heb gyfleodd ar gyfer y dyfodol O amgylch y byd heddiw mae dynion a merched yn dal i gael eu carcharu oherwydd eu daliadau gwleidyddol ac yn dal i gael eu herlyn am eu golwg sut maent yn addoli, a phwy maent yn eu caru ac mae hynny'n digwydd heddiw [cymeradwyo] Ac felly mae'n rhaid i ninnau hefyd frwydro am gyfiawnder Mae'n rhaid i ninnau hefyd frwydro am heddwch Mae yna ormod o bobl sydd yn derbyn yn hapus rhodd werthfawr Madiba sef cymodi hiliol ond yn dal i wrthod yn gryf unrhyw ddiwygiadau pitw a fyddai'n herio eiddo cronig ac anghydraddoldeb cynyddol Mae yna ormod o arweinwyr sy'n honni undod gyda brwydr Madiba am ryddid ond sydd ddim yn goddef unrhywun ond eu pobl eu hunain [cymeradwyo] Ac mae yna ormod ohonom gormod ohonom ar yr ymylon yn gartrefol yn ein hunanfoddhad neu'n sinigiaeth pan mae angen i'n lleisiau gael eu clywed Mae'r cwestiynau yr ydym yn eu hwynebu heddiw sut i annog cydraddoldeb a chyfiawnder; sut i warchod rhyddid a hawliau dynol; sut i ddiweddu cyflafan a rhyfel sectyddol does dim atebion hawdd i'r cwestiynau hyn Ond nid oedd atebion hawdd o flaen y plentyn hwnnw a anwyd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf Mae Nelson Mandela yn ein hatgoffa ei bod hi wastad yn ymddangos yn amhosib nes y caiff ei gyflawni Mae De Affrica yn dangos bod hynny'n wir Mae De Affrica yn dangos y gallwn newid y gallwn ddewis byd sydd ddim wedi'i ddiffinio gan ein gwahaniaethau ond gan y gobeithion sydd gennym yn gyffredin gallwn ddewis byd sydd heb ei ddifinio gan gyflafan ond gan heddwch a chyfiawnder a chyfleoedd [cymeradwyo] Welwn ni fyth yr un fath â Nelson Mandela eto Ond gadewch i mi ddweud [wrth] bobl ifanc Affrica a phobl ifanc ar draws y byd y gallwch chi, hefyd, wneud gwaith ei fywyd o yn waith eich bywyd chithau Dros dri deg mlynedd yn ôl, tra'n dal yn fyfyriwr dysgais am Nelson Mandela a'r brwydrau oedd i'w gweld yn y wlad brydferth hon ac fe gynhyrfodd rywbeth ynof fe wnaeth fy neffro i'm cyfrifoldebau -- i eraill a mi fy hun -- ac fy ngosod ar lwybr annhebygol sydd wedi arwain at fan hyn heddiw ac er y syrthiaf yn fyr o esiampl Madiba o hyd mae'n fy ngwneud i eisiau bod yn well dyn [cymeradwyo] Mae'n siarad gyda beth sydd orau ynom ni Ar ôl i'r gwaredwr mawr hwn gael ei roi i orffwys a phan fyddwn yn dychwelyd i'n dinasoedd a'n pentrefi ac ymuno unwaith eto â'n trefn ddyddiol gadewch i ni chwilio am ei gryfder o gadewch i ni chwilio am fawr ei ysbryd rhywle ynom ni'n hunain a phan fo'r nos yn cau pan fo anghyfiawnder yn pwyso'n drwm ar ein calonnau pan fo ein cynlluniau mwyaf trwyadl yn ymddangos tu hwnt i'n gafael gadewch i ni feddwl am Madiba a'r geiriau a ddaeth â chysur iddo ef o fewn pedwar mur ei gell: "Nid oes ots pa mor gul yw'r adwy, mor drwm yw'r cosbau ar y sgrôl Myfi yw meistr fy ffawd fy hun, Myfi yw capten fy enaid i." Yn doedd yr enaid yn ysblennydd? Byddwn yn ei golli'n fawr Bendith Duw fo ar yr atgof o Nelson Mandela Bendith Duw fo ar bobl De Affrica [cymeradwyo]